Llangollen: 'Artistiaid anhygoel mewn cyngherddau gwefreiddiol'
|
Mae trefnwyr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn gobeithio y bydd yn "llwyddiant ysgubol" er mwyn cynnig "llygedyn o obaith yn yr hinsawdd economaidd bresennol". Maen nhw "wrth eu boddau" bod gwerthiant tocynnau ar gyfer yr Ŵyl yn uwch na'r llynedd. Nos Lun fe fydd y cyngerdd agoriadol yn y Pafiliwn yn cychwyn ar yr holl weithgareddau. Dywedodd Mervyn Cousins, rheolwr gyfarwyddwr yr Eisteddfod bod y digwyddiad a gwyliau tebyg yn "fregus" yn ystod yr hinsawdd economaidd. "Ond eleni, rydym wedi bod yn hyderus ac wedi ychwanegu cyngerdd gala a diwrnod cyfan o weithgareddau ychwanegol ar y dydd Sul. "Mae gwerthiant y tocynnau yn parhau i fod yn galonogol iawn. "Rydym yn cynnig y cystadlaethau gorau yn y byd, artistiaid anhygoel mewn cyngherddau gwefreiddiol, hyn oll mewn lleoliad godidog." Gweledigaeth Faryl Smith, Mark Evans, Côr Meibion Y Fron, Cantorion Colin Jones, Côr Godre'r Aran ac Alexei Kalvecs fydd yn y Gala Agoriadol nos Lun cyn i'r cystadlu ddechrau ddydd Mawrth. Ymhlith y digwyddiadau newydd eleni mae'r Eisteddfod yn lansio Coeden Heddwch. Am gyfraniad ariannol gall pobl adael neges heddwch er mwyn sicrhau fod gweledigaeth sefydlwyr yr Ŵyl yn goroesi i genhedloedd y dyfodol.
 |
Daw cystadleuwyr i berfformio, nid o reidrwydd mewn undod ond yn sicr mewn cytgord
Terry Waite, Llywydd Eisteddfod Llangollen
|
Bydd pobl yn gallu nodi'r neges a fydd yn cael ei glymu i'r goeden. Caiff yr holl negeseuon eu casglu ar ddiwedd yr Ŵyl a'u cyhoeddi mewn llyfryn a fydd ar gael i'w brynu. Mae'r goeden wedi ei ddylunio a'i adeiladu gan Bob Attenburrow, sydd yn dathlu 50 mlynedd o wirfoddoli gyda'r Eisteddfod, a Rob Edwards, gwr ifanc a gafodd ei gyflwyno i'r Eisteddfod gan ei dad a oedd yn gyfrifol am adeiladu'r ardal gefn-llwyfan am bron i 40 mlynedd. "Mae Llangollen yn uno diwylliannu a phobl o bedwar ban byd mewn dathliad unigryw o gerddoriaeth a dawns ac os nad ydych chi wedi cael cyfle i'w brofi o'r blaen rydych wedi methu rhywbeth arbennig," meddai Terry Waite, Llywydd Eisteddfod Llangollen. "Daw cystadleuwyr i berfformio, nid o reidrwydd mewn undod ond yn sicr mewn cytgord. "Mawr obeithiaf y bydd mwy a mwy o bobl yn dod i Langollen i weld faint o wahaniaeth y gall gweithredoedd, ymroddiad a rhaglen gŵyl mewn tref fach yng Ngogledd Cymru, wneud i'r byd." Am y tro cyntaf eleni fe fydd 'na ddiwrnod o ddigwyddiadau ychwanegol ddydd Sul. Fel arfer mae'r Eisteddfod wedi dod i ben ar y nos Sadwrn gyda chystadleuaeth Côr y Byd. Ond fe fydd 'na amrywiaeth o artistiaid yn perfformio ar y maes ac yn y dref yn ystod dydd Sul.
|