Mae treuliau'r ACau wedi cael eu cyhoeddi
|
Fe fydd argymhellion ymchwiliad annibynnol i gyflogau a threuliau Aelodau Cynulliad yn cael eu cyhoeddi. Daw'r adroddiad ar ôl bron i flwyddyn o waith ymchwil ac ar ôl y sgandal diweddar am dreuliau Aelodau Seneddol. Mae aelodau'r panel wedi cynnal dros 20 o gyfarfodydd, gan gynnwys dau yn gyhoeddus, yn ogystal â chymharu trefn mewn cyrff seneddol eraill. Yn ôl y panel, gafodd ei gadeirio gan Syr Roger Jones, y bwriad yw gwobrwyo ACau yn deg am eu gwaith ond gyda'r pwyslais ar dryloywder. Yr wythnos diwethaf cafodd manylion treuliau'r ACau eu cyhoeddi ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol. Dywedodd Syr Roger bod y panel wedi "mabwysiadau nifer o egwyddorion i'n harwain yn ein gwaith". "Un o'r rhain oedd bod rhaid i'r argymhellion fod wedi eu selio ar dystiolaeth," meddai. Mwy o gyfrifioldebau "Mae'n rhaid i ni gael pethau'n iawn er mwyn sicrhau bod y gyfundrefn yn deg ac yn agored ond hefyd yn sicrhau gwerth eu harian i'r cyhoedd." Cafodd y panel ei sefydlu ym mis Awst er mwyn "edrych ar bob agwedd o gymorth ariannol sydd ar gael i ACau".
 |
AELODAU'R PANEL
Syr Roger Jones - Cadeirydd - Dirprwy-Ganghellor Prifysgol Abertawe
Jackie Nickson, Rheolwr Adnoddau Dynol, Opagus Group Ltd
Nigel Rudd, cyn Brif Weithredwr, Cynulliad Rhanbarthol Dwyrain Canolbarth Lloegr
Dafydd Wigley, cyn AC ac AS a Llywydd Anrhydeddus Plaid Cymru
|
Ar hyn o bryd mae AC yn derbyn cyflog o £53,108 y flwyddyn sef 82% o gyflog AS. Fe dderbyniodd yr aelodau godiadau cyflog sylweddol o ganlyniad i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac mae disgwyl i'r argymhellion ystyried y cyfrifoldebau ychwanegol. Mae costau ychwanegol - am ail gartref - hyd at £13,000 yn gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer morgeisi llog yn unig a dodrefn. Yn ôl y costau gafodd eu cyhoeddi'r wythnos diwethaf roedd yr ACau wedi hawlio dros £230,000 ar forgeisi a rhent yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a £50,000 am fwyd. Cafodd treuliau'r ASau eu cyhoeddi ar y we hefyd ond mae 'na feirniadaeth wedi bod nad ydi awdurdodau Tŷ'r Cyffredin wedi eu cyhoeddi yn llawn. Fe fydd gan y Cynulliad Cenedlaethol yr hawl i wrthod yr argymhellion gan Syr Roger neu eu diwygio. Ond fe fydd 'na bwysau gwleidyddol arnyn nhw i'w derbyn yn eu crynswth. Mae 'na bosib y bydd modd gohirio gweithredu'r argymhellion, sy'n cynnwys newidiadau sylfaenol i amodau gwaith aelodau, tan ddechrau'r pedwerydd cynulliad yn 2011. Er bod yr adolygiad wedi ei lansio cyn yr helyntion presennol am dreuliau gwleidyddion San Steffan mae disgwyl i'r argymhellion rhoi rhagflas o'r hyn allai ddigwydd yno pan fydd Syr Christopher Kelly yn cyflwyno'i adroddiad. Y Cynulliad Cenedlaethol ydi'r corff cyntaf i gymryd cyfrifoldeb am eu treuliau ers i'r helyntion yn San Steffan ddod i'r amlwg.
|