|
Mae dyn 48 oed wedi marw ar y rheilffordd ger gorsaf Prestatyn, Sir Ddinbych, nos Sadwrn. Cafodd yr heddlu eu galw am 7.35pm wedi adroddiadau bod dyn wedi ei daro gan drên. Roedd y trên yn teithio o Fanceinion i Landudno a'r dyn ar y groesfan ar y pryd. Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio.
|