Roedd Mr Jenkins yn ddyfarnwr am 25 mlynedd
|
Mae dyfarnwr criced wedi marw ar ôl cael ei daro yn ei ben gan bêl yn ystod gêm ar faes San Helen yn Abertawe ddydd Sadwrn. Roedd Alcwyn Jenkins , 72 oed, yn dyfarnu gêm rhwng Abertawe a Llangennech pan ddigwyddodd y ddamwain. Roedd Mr Jenkins yn ŵr gweddw o Sgiwen ger Castell-nedd. Dywedodd Neil Hobbs, cadeirydd anrhydeddus Cymdeithas Criced De Cymru, ei bod yn ddamwain drasig. "Dwi wedi dyfarnu gydag Alcwyn - bachan hyfryd. "Roedd parch mawr ato yn y gynghrair, ac roedd pawb yn nabod Alcwyn," meddai Mr Hobbs. "Roedd e'n ddyfarnwr am 25 mlynedd fwy neu lai. "Mae'n ddiwrnod trist iawn a dwi'n teimlo trueni dros ei blant. "Bydd colled fawr ar ei ôl". Taith Dywedodd Steve Davies, cadeirydd Clwb Criced Abertawe, bod y ddamwain wedi digwydd tua 4pm o flaen torf anarferol o fawr gan fod llawer o'r gynulleidfa wedi bod yn gwylio gêm rygbi'r Llewod yn erbyn De Affrica cyn hynny. Ychwanegodd Mr Davies bod Mr Jenkins wedi dweud wrtho cyn y gêm: "Dwi wrth fy modd yn chwarae yn San Helen. Mae'n lle gwych i chwarae criced." Roedd Mr Jenkins wedi dychwelyd yn ddiweddar o daith i India'r Gorllewin gyda Chymdeithas Criced De Cymru. Dywedodd Heddlu De Cymru bod dyn 72 oed wedi marw mewn gêm griced yn Abertawe ac nad oedd amgylchiadau amheus.
|