British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 5 Gorffennaf 2009, 08:29 GMT 09:29 UK
Eisteddfod: Cyfle i fandiau

Maes yr Eisteddfod
Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn Y Bala rhwng Awst 1-8

Bydd bandiau newydd yn cael cyfle i rannu llwyfan gyda rhai o brif artistiaid y sîn Gymraeg gan berfformio ar faes yr Eisteddfod yn y Bala eleni.

Mae'r elusen Cerdd Gymunedol Cymru yn bwriadu creu bandiau allan o sêr y dyfodol dros y misoedd nesaf trwy gyfres o weithdai yn Harlech a Thywyn.

Mae dau slot wedi ei neilltuo ar eu cyfer a bydd hwn yn gyfle i lansio gyrfaoedd cerddorol newydd.

Bydd y perfformiadau yn digwydd rhwng 11yb a 12yp ar Awst 6 a 7.

Mae'r grŵp cyntaf wedi ei ffurfio allan o gerddorion o ardal Harlech. Fe fydd cerddorion yn ardal Tywyn hefyd yn cael cyfle i ffurfio band ac i berfformio yn yr Eisteddfod.

Mae'r prosiect ar agor i gerddorion o bob oed ac arddull gerddorol, gyda'r bwriad o greu ystod amrywiol o gerddoriaeth newydd Cymraeg.

Hyfforddir y bandiau ar ran Cerdd Gymunedol Cymru gan y cynhyrchydd a'r cerddorol profiadol Gronw Roberts.

Ers iddo fod ar raglen mentora Ciwdod sy'n cael ei rhedeg gan Cerdd Gymunedol Cymru yn 2005 mae Gronw bellach wedi cwblhau cwrs hyfforddiant tiwtoriaid y sefydliad a bellach yn hyfforddi cerddorion yn gymunedol.

'Cyfle gwych'

Dywedodd Gethin Evans, Rheolwr Prosiectau gyda Cerdd Gymunedol Cymru: "Mae hwn yn gyfle gwych i gerddorion o Gymru gael dangos eu talentau, a gydag arbenigedd Gronw Roberts i gael cymorth i ddatblygu deunydd newydd a chyffroes ar gyfer yr Eisteddfod.

"Drwy gydweithio gyda'r wŷl ry' ni'n gobeithio ehangu'r gynulleidfa ac annog pobl na fyddai yn cymryd rhan fel arfer i gymryd rhan yn un o wyliau diwylliannol hynaf y byd."

Mae'r prosiect yn cael ei rhedeg mewn cydweithrediad gyda Mantell Gwynedd a Bwrdd yr iaith Gymraeg.

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau yn cael ei chynnal yn Y Bala rhwng Awst 1-8.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Blaenau Gwent yn croesawu'r brifwyl
27 Meh 09 |  Newyddion
'Gwledd' ar lwyfan Prifwyl
27 Chwef 09 |  Newyddion
Prifwyl yn 'wynebu argyfwng'
24 Tach 08 |  Newyddion
Pafiliwn pinc i'r Eisteddfod
30 Maw 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific