Galw cynyddol am Gymry Cymraeg sy'n deall ac yn medru trafod cynaliadwyedd amgylcheddol
|
Mae Prifysgol Bangor yn cynnig cwrs newydd Rheolaeth Amgylcheddol Gynaliadwy a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Ar hyn o bryd mae galw cynyddol am Gymry Cymraeg sy'n deall ac yn medru trafod cynaliadwyedd amgylcheddol gan fod hon yn thema yn holl bolisïau Llywodraeth y Cynulliad. Dyma'r cwrs cyntaf o'i fath ac mae'n arwain naill at gymhwyster MA neu MSc. Mae'r brifysgol yn gobeithio croesawu'r myfyrwyr llawn a rhan-amser cyntaf ym mis Medi. 'Diwallu'r anghenion' "Mae ein cwrs wedi ei gynllunio'n fanwl ac oherwydd trafodaethau â chyrff amgylcheddol a chyflogwyr perthnasol fel y Parciau Cenedlaethol, Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a'r sector gwirfoddol", meddai Geraint George o Ysgol Amgylchedd ac Adnoddau Naturiol y Brifysgol. "Bydd y cwrs yn diwallu'r anghenion am ddarpar staff o ansawdd uchel â chefndir perthnasol a hefyd sy'n medru trafod eu pynciau yn hyderus yn y Gymraeg". Dywedodd prif weithredwr Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Roger Thomas: "Mae'n hollbwysig bod prifysgolion yn medru paratoi pobl ar gyfer y gwaith ac, yn sicr, mae angen mwy o siaradwyr Cymraeg yn y maes amgylcheddol". 'Cwrs ôl-radd cyntaf' Yn ôl Paula Roberts, Cymrawd Dysgu Cyfrwng Cymraeg yr Ysgol Amgylchedd ac Adnoddau Naturiol: "Mae'r cwrs yn estyniad naturiol i'r cyrsiau amgylcheddol cyfrwng Cymraeg eraill yr ydym eisoes yn eu cynnig ym Mangor. "Ond hwn yw'r cwrs ôl-radd cyntaf yn y maes gwyddonol ac amgylcheddol fydd ar gael yn llwyr drwy'r Gymraeg." Mae cefnogaeth ariannol ar gael i ddarpar fyfyrwyr naill ai drwy AmNawdd, sef y cynllun noddi ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn pynciau amgylcheddol drwy gyfrwng y Gymraeg, neu drwy fwrsariaeth arbennig Prifysgol Bangor.
|