British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 4 Gorffennaf 2009, 14:40 GMT 15:40 UK
Damwain M4: Wyth yn yr ysbyty

Traffig ar yr M4 ar stop ddydd Sadwrn
Digwyddodd y ddamwain am 1.09am ddydd Sadwrn

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddamwain yn ymwneud ag o leiaf 10 cerbyd ar yr M4.

Roedd y ddamwain rhwng cyffordd 36 Pen-y-bont ar Ogwr a Chyffordd 35 Pencoed i gyfeiriad y dwyrain am 1.09pm.

Cafodd un person ei gludo mewn hofrennydd i ysbyty'r brifysgol yng Nghaerdydd.

Aed ag o leiaf saith o bobl i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ond nid yw eu hanafiadau yn ddifrifol.

Cafodd nifer o bobl driniaeth gan barafeddygon ar y safle gan gynnwys rhai a gafodd eu torri allan o'u cerbydau.

Cafodd yr M4 ei chau i'r ddau gyfeiriad rhwng Cyffordd 34 Meisgyn a Chyffordd 36 Pen-y-bont ar Ogwr/gwasanaethau Sarn am gyfnod ond ailagorodd tua 3.30pm.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific