Adeiladwyd Neuadd Prichard Jones yn 1905
|
Mae adeilad gafodd ei ddangos ar raglen Restoration y BBC wedi cael ei adfer i'w hen ogoniant mewn datblygiad gwerth £650,000. Roedd Sefydliad Prichard Jones yn Niwbwrch, Ynys Môn yn un o dri adeilad yng Nghymru gafodd eu dangos ar raglen Restoration y BBC gyda'r gwylwyr yn cael dewis yr un gorau i fynd ymlaen i'r rownd derfynol. Y ddau adeilad arall oedd Gweithdai Pen yr Orsedd yn Nyffryn Nantlle a Fferm Llys Penbre, Sir Gaerfyrddin. Yn y pen draw fe ddaeth Pen yr Orsedd yn ail yn y rownd derfynol. Penderfynodd gwylwyr y gyfres mai gweithdy gof yn Sir Warwick oedd yr enillydd. Syr John Prichard Jones adeiladodd Sefydliad Niwbwrch, Ynys Môn ym 1905 cyn ei gyflwyno i'r trigolion lleol fel adnodd cymunedol. 'Arbennig' "Mae'n adeilad arbennig iawn," meddai Elfyn Roberts o Fenter Môn. "Mae wedi cymryd 13 mlynedd i wireddu'r freuddwyd hon o adfer yr adeilad". Cafwyd grantiau o £650,000 o nifer o ffynonellau, gan gynnwys Cyngor Ynys Môn, Llywodraeth y Cynulliad, Y Loteri Genedlaethol a'r Undeb Ewropeaidd. Canolbwynt yr adeilad yw'r llyfrgell, sydd â channoedd o lyfrau, a llawer ohonynt yn Gymraeg. Agorwyd yr adeilad ar ei newydd wedd ddydd Sadwrn gan Syr David John Walter Prichard-Jones, ŵyr Syr John Prichard-Jones.
|