Fe ddihangodd o Lys y Goron Yr Wyddgrug
|
Mae dyn 36 oed o Ynys Môn sy'n euog o ladradau arfog wedi ei anfon i'r carchar am gyfnod amhenodol. Dywedodd y barnwr yn Llys y Goron Caer wrth Gareth Siarl Williams y byddai rhaid iddo fod dan glo am o leiaf bedair blynedd a hanner. Roedd y diffynnydd o Fodffordd wedi dianc o Lys y Goron, Yr Wyddgrug, ddeuddydd cyn y Nadolig ar ôl dal swyddog carchar yn gaeth. Ar y pryd roedd ar fin cael ei ddedfrydu. Roedd wedi ei arestio ym mis Tachwedd yn Lerpwl. Fe blediodd yn euog i ddwyn arian oddi wrth is-swyddfeydd post yn Llanddaniel, Ynys Môn, ar Hydref 24, Llanarmon-yn-Iâl ger Yr Wyddgrug ar Hydref 31 a swyddfa bost yn Ashton ger Caer ar Hydref 8. Cyfanswm yr arian gafodd ei ddwyn oedd £11,500. Bob tro roedd wedi bygwth isbostfeistres â chyllell fawr. Bydd hefyd yn cael ei ddedfrydu ar ôl pledio'n euog i bum cyhuddiad o dwyll.
|