British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 4 Gorffennaf 2009, 08:47 GMT 09:47 UK
Lansio cyfrol i gofio Tomos

Tomos Owen
Roedd yn gynhyrchydd yn adran chwaraeon y BBC pan oedd yn 24 oed

Mae cyfrol wedi cael ei lansio i gofio Tomos Owen, cynhyrchydd chwaraeon BBC Cymru fu farw o lewcemia yn 31 oed yn gynharach eleni.

Yn Cofio Tomos mae teyrngedau, casgliad o luniau a detholiad o'i ysgrifau, gan gynnwys ei golofn wythnosol ar-lein, Wythnos Gron.

Y golygydd yw tad Tomos, Huw, un o uwchswyddogion y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth cyn ymddeol.

'Teimladau cymysg'

Dywedodd cyn y lansiad yn nhafarn y Mochyn Du yng Nghaerdydd: "Mae gen i deimladau cymysg - yn hiraethu ac yn ymwybodol o'r golled enfawr ond yn ddiolchgar bod y gyfrol yn adlewyrchu cymaint a gyflawnodd.

"Roedd gan Tomos ddiddordeb enfawr mewn chwaraeon ers dyddiau ifanc iawn ac roedd e'n credu bod ganddo swydd ddelfrydol yn adran chwaraeon y BBC".

Aeth Tomos i Ysgol Gynradd Gymraeg Coed-y-gof yng Nghaerdydd cyn mynd i Ysgol Penweddig yn Aberystwyth.

Ar ôl cael gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg yng Nghaerdydd roedd yn gynhyrchydd adran chwaraeon y BBC pan oedd yn 24 oed.

Bu farw ym mis Ionawr.

'Eithriadol'

Dywedodd Lefi Gruffudd ar ran Y Lolfa: "Mae'r parch at Tomos yn rhyfeddol, ac mae'r gyfrol yn adlewyrchu ei boblogrwydd a'i ddawn eithriadol.

"Er bod cyhoeddi'r gyfrol yn fodd o roi cyfraniad Tomos ar gof a chadw bydd ei ddarllen yn ein hatgoffa o'r golled aruthrol i fyd darlledu a chwaraeon yng Nghymru.

"Bydd y casgliad o'i ysgrifau ar ddiwedd y gyfrol, sy'n cynnwys dadansoddi trylwyr a sylwadau miniog, yn sicr o apelio at bawb sy'n dilyn chwaraeon Cymru".

Mae lansiad arall i'r gyfrol yn y Morlan, Aberystwyth, ar nos Wener, Gorffennaf 10.

Bydd cyfran o elw'r gyfrol, sydd ar werth yn y siopau am £9.95, yn mynd i Gronfa Lewcemia Tomos Owen.

Dywedodd y tad: "Codwyd £5,000 yn fuan ar ôl ei farwolaeth ac mae pobl wedi bod yn garedig iawn yn cyfrannu symiau sylweddol ers hynny hefyd.

"Mae angen llawer o waith i ymchwilio i lewcemia ac mae'n braf meddwl y bydd yr arian yn helpu eraill".



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific