Mae arwyddion dwyieithog mewn rhanau o'r wlad
|
Mae undeb wedi dweud bod peidio â chodi arwyddion dwyieithog mewn rhan o'r Alban "yn well na cholli swyddi". Roedd Cyngor yr Ucheldiroedd wedi rhybuddio y byddai cannoedd o swyddi'n diflannu o fewn tair blynedd oherwydd toriadau o £60m. Dywedodd llefarydd undeb Unsain, Shane Manning, fod modd gwneud arbedion wrth beidio â chodi arwyddion dwyieithog. Mae'r cyngor wedi cytuno i arbed £13m eleni. "Rwy'n derbyn bod y cyngor yn wynebu penderfyniadau anodd," meddai Mr Manning. "Ond rhaid meddwl yn realistig am sut y mae arian yn cael ei wario." 'Enghraifft dda' Dywedodd fod aelodau cangen yr Ucheldiroedd yn erbyn arwyddion dwyieithog. "Mae hon yn enghraifft dda o sut mae modd arbed arian yn y tymor byr fel bod modd gwario arian ar bethau o bwys." Dywedodd nad oedd rhybudd y cyngor y byddai swyddi'n diflannu yn "helpu'r sefyllfa o gwbl". "Mae'n amlwg bod staff o dan bwysau ac mae aelodau'n dweud wrthon ni bod satff yn brin mewn sawl adran." Roedd bygwth colli swyddi yn creu mwy o bwysau, meddai.
|