British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 3 Gorffennaf 2009, 16:05 GMT 17:05 UK
Ymchwiliad: Prifathro yn ymddeol

Rhiant yn protestio ym  Mhlas Brondyffryn yn 2008
Rhiant yn protestio yn 2008

Mae prifathro, testun ymchwiliad mewn ysgol arbennig i blant awtistaidd, yn mynd i ymddeol.

Cafodd dyletswyddau Michael Toman eu cyfyngu wedi cwynion rhieni â disgyblion yn Ysgol Plas Brondyffryn, Dinbych.

Mae ymchwiliad Cyngor Sir Ddinbych yn parhau.

Y llynedd fe brotestiodd rhieni oherwydd honiadau nad oedd yr ysgol yn delio â phryderon am safonau.

Cyfeiriodd adroddiad Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru at 14 enghraifft lle nad oedd yr ysgol yn dilyn lleiafswm safonau yn 2006.

'Parch mwyaf'

Dywedodd Dr Toman, fydd yn ymddeol ddiwedd mis Awst: "Mi fyddaf yn gweld eisiau cyd-weithio â staff ardderchog yr ysgol a'r llywodraethwyr sy'n rhoi cymaint o gefnogaeth.

"Byddaf hefyd yn gweld eisiau'r rhieni a'r teuluoedd.

"Mae gen i'r parch mwyaf at rieni disgyblion Brondyffryn oherwydd eu hymroddiad llwyr i'r plant".

Dywedodd y cyngor: "Ar adeg ymddiswyddiad Dr Toman, nid yw'r broses fewnol wedi ei gorffen.

"Ni fyddai'n addas ceisio rhagweld beth fydd casgliad yr ymchwiliad."

Mae'r ganolfan yn ysgol ddydd a phreswyl ar gyfer plant rhwng tair ac 19 oed ag awtistiaeth neu broblemau cyfathrebu.

Yno mae 'na le i 100 o ddisgyblion a lle i 36 aros.



HEFYD
Prif weithredwr cyngor yn gadael
03 Tach 08 |  Newyddion
Awtistiaeth: Cyngor o dan y lach
30 Medi 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific