Fe fydd y ganolfan yn cynnig lle i bobl ifanc gymdeithasu a dysgu sgiliau
|
Mae Cronfa'r Loteri yn buddsoddi dros £500,000 er mwyn adnewyddu capel ym Merthyr Tudful. Y bwriad ydi datblygu Capel Soar yn y dref i fod yn ganolfan gymunedol a fydd yn canolbwyntio ar hyrwyddo'r iaith Gymraeg. Roedd 'na bryderon yn y gorffennol y byddai'r capel yn cael ei gau. Mae'r £527,000 yn cael ei glustnodi ar gyfer Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful. Fe fydd y grant yn diogelu dyfodol yr adeilad cofrestredig o'r 19fed ganrif ac yn sicrhau gwell darpariaeth yn lleol i'r iaith Gymraeg yn y dref a'r ardal ehangach. Ar hyn o bryd mae'r ganolfan a'r fenter yn cynnal gweithgareddau o'r hen Festri. 'Lleoliad gwych' Ond fe fydd yr arian yn eu cynorthwyo i ehangu'r gwasanaethau a chynnig mwy o weithgareddau i'r gymuned leol, gan gynnwys grwpiau theatr, gwersi cerdd a Chymraeg a sesiynau hanes lleol. Fe fydd y ganolfan hefyd yn lleoliad ar gyfer cynnig lle i bobl ifanc gymdeithasu a dysgu sgiliau newydd drwy ymarfer eu Cymraeg. "Mae'n lleoliad gwych i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau ac adeiladu eu hyder," meddai Emma Hickey, 24 oed sydd wedi bod yn ddefnyddiwr cyson o'r cyfleusterau. Y llynedd cychwynnodd wirfoddoli yn y ganolfan. "Roeddwn wrth fy modd yn dod yma ac fe fydd yr adnoddau newydd yn gwneud y ganolfan yn fwy apelgar i bobl ifanc. "Ar ôl cwblhau cwrs yn y celfyddydau perfformio fe wnes i gychwyn gwirfoddoli yma. "Ar ôl i mi gael gwreiddiau a diddordeb yn hynny yma roeddwn eisiau rhoi rhywbeth yn ôl ac mae'n gyfle i mi hefyd wella fy Nghymraeg ar ôl bod i ffwrdd yn y brifysgol." 'Gwahaniaeth enfawr' Dywedodd Dan Clayton Jones, cadeirydd Pwyllgor Cymru o'r Gronfa, bod adnewyddu Capel Soar yn ganolfan i bobl ifanc yn ffordd wych o ddiogelu dyfodol yr adeilad. "Mae'r gwaith mae'r ganolfan a'r fenter yn ei wneud yn y gymuned yn gwbl allweddol yn cynnig cyfleoedd i ddysgu a datblygu. "Fe fydd y grant yma yn gwneud gwahaniaeth enfawr iddyn nhw." Dywedodd Lisabeth McLeand, Swyddog Datblygu'r ganolfan a'r fenter na all sylweddoli bod hyn yn digwydd. "Rydym wedi bod yn datblygu'r cynllun am y pedair blynedd diwethaf," meddai. "Mae wedi bod yn waith caled iawn ac rydym wedi dibynnu am gydweithrediad a chefnogaeth yr awdurdod lleol, partneriaeth gymunedol, ysgolion ac unigolion yn y gymuned."
|