Achosion o'r ffliw moch wedi eu cadarnhau mewn 120 o wledydd
|
Mae tri achos newydd o'r ffliw moch yng Nghymru, sy'n golygu cyfanswm o 37. Yng Nghymru mae 'na 25 achos clinigol tebygol. Ar hyn o bryd yng Nghymru, yr Alban a Lloegr mae 7,450 o achosion wedi eu cadarnhau ac mae 'na dri o bobl wedi marw. Mae salwch dyn 29 oed o Wrecsam a dynes 38 oed yn cael eu cysylltu â thaith i Sbaen. Ac mae dynes 21 oed o Gaerdydd yn cael ei gysylltu'n uniongyrchol ag achos sydd wedi ei gadarnhau yng Ngwlad yr Haf. Mae 264 o bobl wedi cael profion yng Nghymru a 168 wedi cael gwybod nad ydyn nhw'n diodde o'r ffliw. Ar hyn o bryd mae 34 o achosion yn dal i gael eu hymchwilio. 120 o wledydd Mae 'na 1,217 o achosion yn Yr Alban, 6,162 yn Lloegr a 34 yng Ngogledd Iwerddon. Bellach mae achosion o'r ffliw moch wedi cael eu cadarnhau mewn 120 o wledydd. Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Tony Jewell, nad oedd y ffliw yng Nghymru yn ddifrifol iawn.
 |
BETH I'W WNEUD?
Os oes unrhyw un yn diodde o symptomau'r ffliw fe ddylai aros gartre
Angen edrych ar wefan Galw Iechyd Cymru i tsecio symptomau - ac os ydyn nhw'n dal yn ansicr, cysylltu ar y ffôn gyda'r meddyg teulu
Ddylai neb fynd i'r feddygfa na'r uned damweiniau brys
Llinell ffôn Gwybodaeth Ffliw'r Moch: 0800 1 513 513 neu wasanaeth Galw Iechyd Cymru: 0845 46 47
|
"Ond rydym wedi rhybuddio pobl y bydd 'na achosion yng Nghymru ac, mewn rhai amgylchiadau, farwolaethau. "Fel gyda ffliw blynyddol mae 'na farwolaethau, yn enwedig os ydi rhywun yn dioddef o gymhlethdodau meddygol. "Hoffwn sicrhau'r cyhoedd ein bod yn gweithio'n galed i baratoi ar gyfer y ffliw ers rhai blynyddoedd ac mae 'na ganllawiau mewn grym. "Rhaid i bawb fod yn wyliadwrus o hyd er mwyn atal lledu'r haint." Dywedodd hefyd na fydd meddyginiaeth yn cael ei rhoi i bobl â chysylltiad uniongyrchol â ffliw'r moch oni bai bod meddygon yn credu bod hyn yn werth ei wneud. "Fe fyddwn yn canolbwyntio ar roi meddyginiaeth wrth-fiotig i'r rhai â'r risg fwya, merched beichiog, plant o dan bump oed a'r rhai â chlefydau cronig," meddai. Ychwanegodd mai'r un oedd y cyngor i'r cyhoedd, defnyddio hances bapur a'i thaflu'n syth, golchi dwylo yn gyson neu ddefnyddio hylif arbennig.
|