British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 3 Gorffennaf 2009, 10:36 GMT 11:36 UK
Prifathro: Carchar am ddwy flynedd

David Thorley
Thorley: Yn euog o naw cyhuddiad

Mae prifathro oedd yn euog o naw cyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar blant wedi cael dwy flynedd o garchar.

Yn Llys y Goron Abertawe ym mis Mai fe gafwyd David Thorley, 56 oed o Gaerfyrddin, yn euog.

Fe'i cafwyd yn ddieuog o ddau gyhuddiad.

Roedd wyth o'r 19 cyhuddiad gwreiddiol wedi eu tynnu'n ôl am fod y barnwr wedi dweud nad oedd y dystiolaeth yn "ddigonol".

Dywedodd y Barnwr Michael Burr wrth y diffynnydd y byddai hanner ei ddedfryd yn y carchar cyn y byddai'n cael ei ryddhau ar drwydded.

Roedd yr erlyniad wedi dweud fod ei ddiddordeb mewn merched ifanc yn "afiach".

Honnodd yr erlyniad ei fod wedi cam-ddefnyddio ei swydd mewn ysgol yn Sir Benfro wrth archwilio'r plant yn fanwl a rhoi meddyginiaeth yn "gwbl amhriodol".

Dyletswydd

Pan gafodd ei holi gan yr heddlu dywedodd Thorley fod dyletswydd arno o dan y Ddeddf Gwarchod Plant i roi'r "driniaeth orau bosib" i'r plant.

Dywedodd ei fod yn sicrhau bod aelod benywaidd o staff o hyd yn bresennol.

Roedd y diffynnydd wedi dweud wrth y rheithgor fod yr achos yn "drasiedi bersonol" iddo ac wedi "torri calonnau" ei deulu.

Wrth gael ei groesholi, dywedodd Thorley fod yr ysgol yn "lle hyfryd lle oedd plant a staff gwych".

"Rwy'n falch iawn o'r ysgol," meddai.

Pan ofynnodd yr erlynydd iddo pam bod merched ffrind teuluol wedi gwneud honiadau amdano, fe soniodd am "ddylanwadau mileinig".



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Prifathro: Apelio'n erbyn dyfarniad
17 Meh 09 |  Newyddion
Llys: 'Archwilio merch yn fanwl'
14 Mai 09 |  Newyddion
Llys: 'Helpu merch yn y ty bach'
05 Mai 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific