British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 3 Gorffennaf 2009, 11:42 GMT 12:42 UK
Ffliw moch: Pwy sy'n talu?

Negatif o ffliw'r moch
Mae 34 achos o'r ffliw moch yng Nghymru

Mae 'na ddryswch ar hyn o bryd ynglŷn â phwy ddylai dalu am gynllun brechu ar gyfer ffliw'r moch yng Nghymru.

Mae BBC Cymru wedi cael ar ddeall fod y Prif Weinidog Rhodri Morgan wedi ysgrifennu at Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn awgrymu mai nhw ddylai'r dalu'r bil gan fod y pandemig yn "achos brys eithriadol" a hynny er bod iechyd wedi ei ddatganoli.

Fe fyddai cost rhaglen brechu o'r fath yng Nghymru mae'n debyg yn ddegau o filiynau o bunnoedd.

Mae'r Alban a Gogledd Iwerddon hefyd yn dwyn pwysau ar Lywodraeth Prydain i dalu'r bil.

Mae Llywodraeth Yr Alban wedi amcangyfrif y gallai'r rhaglen gostio hyd at £100 miliwn yno.

Ond mae safbwynt Mr Morgan wedi cael ei danseilio gan lefarydd y Blaid Lafur ar iechyd yn Yr Alban.

Arian wrth gefn

Mae Cathy Jamieson yn gwrthwynebu'r alwad gan blaid yr SNP ar Lywodraeth y DU i dalu'r costau.

Galwodd ar y blaid i esbonio pam fod llywodraeth Yr Alban "yn anfodlon talu am frechiad yn erbyn y ffliw pan fo iechyd yn faes sydd wedi ei ddatganoli'n llawn".

Nid yw'r Trysorlys yn cydweld â galwadau'r tair gwlad chwaith.

Gallai penderfyniad i orfodi'r gwledydd sydd wedi cael eu datganoli i dalu costau brechu olygu y byddai'n rhaid dod o hyd i arian o fewn y gyllideb iechyd, neu ddefnyddio arian wrth gefn.

"Yr Adran Iechyd yn Llundain sy'n rheoli'r stoc o frechiadau ar gyfer y DU i'r boblogaeth gyfan," meddai llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad.

"Bydd Cymru'n derbyn cyfran ar gyfer ei phoblogaeth".

Ychwanegodd fod Mr Morgan wedi dweud wrth y Canghellor Alistair Darling nad yw mesurau argyfwng wedi cael eu datganoli i Gymru, ac felly y dylai Llywodraeth y DU dalu'r gost.

Daw'r alwad yma wrth i rybudd y gallai hyd at 100,000 o bobl y diwrnod fod yn diodde o'r feirws cyn bo hir yn y DU.

Yng Nghymru mae 'na 37 achos wedi cael eu cadarnhau a 25 achos clinigol tebygol.

Mae 264 o bobl wedi cael profion yng Nghymru a 161 wedi cael gwybod nad ydyn nhw'n diodde o'r ffliw wrth i 34 ddal i aros am y canlyniadau.

Mae 'na 1,217 o achosion yn Yr Alban, 6,162 yn Lloegr a 34 yng Ngogledd Iwerddon.

Mae'r ffliw wedi effeithio ar 120 o wledydd.



HEFYD
Ffliw moch: Tri achos arall
03 Gorff 09 |  Newyddion
Ffliw moch: Pedwar achos arall
02 Gorff 09 |  Newyddion
Ffliw moch: Triniaeth ysbyty
26 Meh 09 |  Newyddion
Ffliw moch: Achos tebygol cynta
29 Mai 09 |  Newyddion
Ffliw: Lefel fygythiad yn uwch
30 Ebr 09 |  Newyddion
Ffliw moch: Achosion posib yng Nghymru
28 Ebr 09 |  Newyddion
'Dim modd rheoli'r ffliw moch'
28 Ebr 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific