Mae'r ganolfan yn delio â mwy o achosion
|
Mae Aelod Cynulliad wedi galw ar yr heddlu a'r awdurdodau lleol i gynnig mwy o arian i achub canolfan sy'n helpu pobl sydd wedi cael eu treisio. Gallai'r ganolfan yng Nghaernarfon gau o fewn wythnosau oherwydd prinder o £70,000. Dywedodd AC Gogledd Cymru, Janet Ryder, mai cyfrifoldeb cynghorau lleol, awdurdodau iechyd a'r heddlu fyddai dod o hyd i fwy o arian. Mae'r ganolfan yn helpu tua 500 o bobl bob blwyddyn. Dywedodd "Marie" y mae canolfan Rasa wedi ei helpu, fod yr help yn "hanfodol" wrth ail-adeiladu ei bywyd a'i chael hi'n ôl i fyd gwaith. "Faswn i ddim yn gwneud y gwaith dwi'n ei gwneud oni bai am Rasa. "Dwn i ddim lle baswn i hebddyn nhw ... Rhaid iddi aros ar agor."
'Bregus' Dywedodd yr AC: "Mae hwn yn wasanaeth sy'n gwneud cymaint i'r bobl fwyaf bregus ac ni ddylai ddod i ben." Mae gan y ganolfan 50 o wirfoddolwyr ac mae wedi bod ar agor ers 25 mlynedd. Ond mae'r cyfarwyddwr, Katherine Moseley, wedi dweud y gallai gau cyn diwedd yr haf. "Dydd Llun mae 'na gyfarfod o'r ymddiriedolwyr ac rydan ni wedi cael clywed bod tua dau is i fynd. "Mae'n wasanaeth sy'n cael ei ystyried yn annibynnol ac mae'r awyrgylch yn anffurfiol. "Ac mae'n anodd iawn cael grantiau, does unman i wneud cais iddo." Mae'r ganolfan yn cynnig cwnsela a llinell gymorth i bobl sydd wedi cael eu treisio. Cydnabod Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol dros dro Heddlu'r Gogledd, Gareth Pritchard, eu bod yn cydnabod gwaith y ganolfan. "Mae Heddlu'r Gogledd wedi ceisio gwella'r gwasanaeth i bobl sydd wedi dioddef oherwydd troseddau rhyw difrifol ac wedi cyfrannu mwy na £600,000 at Ganolfan Gyfeirio Achosion Ymosodiadau Rhywiol. "Rydyn ni wedi penodi ditectif sarjant a chwe chwnstabl yn benodol er mwyn helpu'r dioddefwyr."
|