Cafodd manylion treuliau ACau eu rhyddhau ddydd Llun
|
Mae pleidiau gwleidyddol yng Nghymru wedi derbyn bron £500,000 o arian cyhoeddus dros y ddwy flynedd ddiwethaf er mwyn darparu swyddfeydd etholaethol i Aelodau Cynulliad a Seneddol. Ac mae ymchwil BBC Cymru wedi dangos bod y pedair prif blaid wedi derbyn yr arian oddi wrth awdurdodau'r Cynulliad a Thŷ'r Cyffredin ar ôl iddo gael ei hawlio fel taliadau am rent a chostau swyddfa. Dyw'r taliadau ddim yn torri'r rheolau presennol. Ond mae Cynghrair y Trethdalwyr wedi dweud bod hwn yn "swm syfrdanol o arian" a'r trethdalwyr "i bob pwrpas yn ariannu pleidiau gwleidyddol". Mae 'na wahaniaethau sylweddol ar draws y wlad, yn ôl yr ymchwil. Yn 2007-8 derbyniodd y pleidiau o leiaf £236,000 o'r pwrs cyhoeddus mewn taliadau am rent a £242,000 yn 2008-09. Weithiau roedd y pleidiau yn derbyn rhent am swyddfeydd mewn adeiladau yr oedden nhw'n berchen arnyn nhw. Mewn achosion eraill roedd y pleidiau yn is-osod ystafelloedd landlordiaid eraill. Mae rhai o'r taliadau rhent yn cynnwys costau eraill fel trethi, biliau nwy a thrydan, yswiriant a chost cynnal a chadw'r adeilad. £30,000 Mae nifer o ACau ac ASau yn rhannu swyddfeydd ac adnoddau a'r drefn hon yn bod yn hanner yr etholaethau. Er y gallai hon fod yn ymgais i arbed arian, mae ymchwil BBC Cymru yn dangos bod rhai pleidiau gwleidyddol lleol yn derbyn lefel uwch o rent nag y bydden nhw fel arall. Fe ofynnodd BBC Cymru i'r pedair plaid am eglurhad ynglŷn â'r trefniadau ariannol mewn sawl etholaeth. Talodd Aelod Cynulliad ac Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol ym Maldwyn dros £30,000 mewn rhent i'r blaid leol mewn blwyddyn. Derbyniodd y blaid £30,495 mewn rhent a chostau eraill oddi wrth Mick Bates a Lembit Opik am swyddfeydd mewn adeilad sy'n eiddo i'r Democratiaid Rhyddfrydol. Dywedodd y blaid nad oedd yn elwa ar hyn a bod yr arian wedi ei wario ar adnewyddu'r adeilad. Talodd Aelod Seneddol Caernarfon ac Aelod Cynulliad Arfon dros £16,000 mewn rhent dros flwyddyn i gangen leol Plaid Cymru. Derbyniodd cangen Arfon £8,800 oddi wrth Hywel Williams AS a £6,600 oddi wrth Alun Ffred Jones AC yn 2007-8 ar gyfer swyddfa yng Nghaernarfon oedd â morgais o ychydig yn fwy na £5,000. Hefyd talodd Mr Jones £715 i'r blaid ar gyfer swyddfa ym Mangor. 'Annibynnol' Dywedodd Plaid Cymru wrth BBC Cymru: "Mae yna drefn ar gyfer asesu gwerth masnachol rhent swyddfeydd, asesiad proffesiynol, annibynnol". Mae'n ymddangos mai dim ond dau o 15 Aelod Cynulliad a Seneddol Ceidwadol yng Nghymru sydd ddim yn talu rhent neu gostau swyddfa eraill i'w pleidiau lleol. Fe dalodd Jonathan Morgan AC £8,700 mewn rhent i gangen Gogledd Caerdydd yn 2008-9. Dywedodd Ceidwadwyr Cymru: "Mae cytundeb cyfreithiol ffurfiol mewn lle neu wedi ei gytuno mewn egwyddor gan bob Aelod Cynulliad Ceidwadol sy'n rhentu swyddfa oddi wrth blaid leol wedi prisio annibynnol". Talodd Aelod Cynulliad a Seneddol Llafur Gwyr gyfanswm o dros £16,000 mewn rhent i'r blaid leol mewn blwyddyn. Derbyniodd cangen Gŵyr £8,100 yr un gan Weinidog Iechyd Cymru Edwina Hart a Martin Caton ar gyfer y swyddfeydd yng Ngorseinon. 'Sylweddol' Mewn datganiad dywedodd y ddau aelod fod "rhentu o'r blaid yn golygu sicrwydd o ran tenantiaeth a bod ein landlord â diddordeb mewn cynnal yr adeilad yn iawn". Maen nhw'n dweud bod lefel y rhent wedi ei hasesu'n annibynnol ac yn cynnwys trethi, yswiriant a thaliadau am ddŵr, nwy a thrydan. Dywedodd Susie Squire, rheolwr ymgyrchoedd Cynghrair y Trethdalwyr, fod y cyfanswm yn "sylweddol" ac y byddai'r trethdalwyr yn "poeni" am y modd yr oedd yn cael ei wario. "Mae'n ofid nad yw ASau, ACau nac unrhyw un sydd wedi ei ethol wedi bod yn fwy agored am y modd y mae arian y trethdalwyr yn cael ei wario ac yn ariannu pleidiau gwleidyddol. "Dydyn nhw ddim wedi bod yn agored am hyn, ers pryd y mae hyn wedi digwydd a faint o arian mae'r pleidiau wedi ei dderbyn." Fe fydd casgliadau ymchwiliad annibynnol i dreuliau a chyflogau ACau yn cael eu cyhoeddi'r wythnos nesaf. Fe fydd panel wedi ei gadeirio gan Syr Roger Jones yn cyhoeddi argymhellion allai arwain at newid y rheolau.
|