British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 1 Gorffennaf 2009, 17:06 GMT 18:06 UK
Alwminiwm: Pecyn cymorth £48m

Ffatri Aliwminiwm Môn
Mae ffatri Aliwminiwm Môn yn un o gyflogwyr mwya'r ynys

Mae Aelod Seneddol Ynys Môn, Albert Owen, wedi dweud bod Llywodraeth Prydain yn barod i gynnig pecyn cymorth gwerth £48m i gwmni Alwminiwm Môn.

Mae 500 o swyddi mewn perygl ar y safle yng Nghaergybi.

Ond mae'r cwmni'n dweud nad yw cynnig y llywodraeth yn ddigon i achub y safle, ac mae'n parhau gyda'r cynllun i gau'r safle pan ddaw'r cytundeb am drydan o safle'r Wylfa i ben ym mis Medi.

Mae Mr Owen wedi trafod y cynnig â swyddogion undebau a'r llywodraeth, gan gynnwys Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain.

Rhybuddiodd Mr Owen fod angen i'r cwmni "ddangos ymrwymiad" drwy dderbyn y cynnig.

'Ddim yn ddigon'

Ond dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, David Bloor: "Edrychon ni ar y cynnig o'n blaenau ac o'n safbwynt ni, dyw e ddim yn ddigon.

"Penderfyniad masnachol yw hwnnw. Does dim newid.

"Mae'n gynnig, ond nid beth sydd ei angen arnon ni."

Ychwanegodd nad oedd y cwmni wedi derbyn cynnig ffurfiol ar ffurf llythyr, ond ei fod wedi dod gan "wleidydd blaenllaw oedd yn siarad ag uwch swyddog RTZ, prif gyfranddalwr y cwmni alwminiwm".

Yn dilyn cyfnod ymgynghori 90 diwrnod, mae'r cwmni wedi oedi am bythefnos cyn dweud wrth weithwyr a fyddan nhw'n colli eu swyddi.

Bydd manylion am nifer y gweithwyr sydd wedi gwneud cais am ddiswyddiadau gwirfoddol yn cael eu cyhoeddi ddydd Gwener.

Dywed Mr Owen fod cynnig y llywodraeth yn sylweddol, a'i bod eisoes yn cefnogi cynlluniau'r cwmni i ddatblygu gorsaf bŵer biomas ger y ffatri.

'Cyfnod anodd'

Ychwanegodd Mr Owen ei fod am gael cyfarfod brys â bwrdd Alwminiwm Môn.

"Rydyn ni'n ymwybodol bod y tasglu wedi gwneud cynigion sylweddol i Rio Tinto Zinc, ac rydyn ni'n bryderus am ymateb gwreiddiol y cwmni.

"Mae'r trafodaethau wedi cyrraedd cyfnod anodd.

"Mae angen mwy o eglurdeb gan RTZ a Metalau Alwminiwm Môn Cyf., ac felly rydyn ni'n ceisio cyfarfod brys â Bwrdd Alwminiwm Môn.

"Rydyn ni'n benderfynol o frwydro i achub cymaint o swyddi â phosib."

Dywedodd llefarydd ar ran undeb Unite: "Yng ngoleuni'r cyfarfod ac ar ôl llythyr positif dderbyniwyd o gadeirydd RTZ, rydyn ni'n hapus â'r ymateb hael gan y Llywodraeth.

"Bwriad yr undeb nawr, yn ogystal â'n cydweithwyr gwleidyddol, yw trefnu cyfarfod pellach â Bwrdd Alwminiwm Môn cyn gynted â phosib, er mwyn symud y mater ymlaen."



HEFYD
Aliwminiwm: Gorsaf bwer?
16 Meh 09 |  Newyddion
'Pryder am 500 o swyddi'
15 Ion 09 |  Newyddion
Ffatri alwminiwm yn hyderus
23 Tach 08 |  Newyddion
Cwmni 'am ddiogelu gwaith'
10 Rhag 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific