Katie Scarlett Howard gyda'r cerflun gorffenedig o Laura Ashley
Cafodd cofeb i'r cynllunydd ffasiwn Laura Ashley ei ddadorchuddio yn Y Trallwng. Dyma'r darn cyntaf o chwe darn o waith celf sy'n coffau merched enwog a fydd i'w gweld mewn gerddi yng Nghymru. Cafodd Laura Ashley ei geni ym Merthyr Tudful cyn cychwyn ar gwmni dillad a deunyddiau byd enwog a oedd yn cael eu creu ym Mhowys. Ymhlith y merched eraill fydd yn cael eu cofio y mae'r actores Siân Phillips a'r awdures llyfrau plant, Beatrix Potter Gwaith yr arlunydd Katie Scarlett Howard ydi'r cerfluniau. Mae'r chwe cherflun wedi cael ei gwneud ganddi yn ei stiwdio ger Yr Wyddgrug. Mae'r dadorchuddio'r cerfluniau dros y misoedd nesaf yn rhan o gynllun gan elusen Ymddiriedolaeth Gerddi'r Agoriad. Mae cerflun ceramig o Laura Ashley i'w weld yng Ngardd Neuadd Glansevern.
 |
LLEOLIADAU'R CERFLUNIAU
Laura Ashley - Neuadd Glansevern Hall, Y Trallwng
Mary Ashby Lewis - Parc Llanerchaeron Park, ger Aberearon
Beatrix Potter - Neuadd Gwaenynog, Dinbych
Angharad Tomos - Parc Glynllifon, Caernarfon
Siân Phillips - Gerddi Dyffryn, ger Caerdydd
Jemima Niclas - Gardd Stackpole, Hwlffordd
|
Dywedodd y cerflunydd na wnaeth Laura Ashley, a gafodd ei magu yn Nowlais, anghofio ei gwreiddiau. Bu'r cwmni yn gweithredu mewn sawl rhan o orllewin Cymru cyn sefydlu yn Hen Dy'r Rheilffordd yng Ngharno ac yna agor ffatri yn Y Drenewydd. Fe wnaeth y ffatri agor yn fuan cyn marwolaeth y cynllunydd yn 60 oed yn 1985. "Roedd Laura Ashley yn ddynes ddylanwadol iawn, roedd ei chynlluniau yn drawiadol ar gyfer dillad a defnyddiau a ddaeth â llwyddiant rhyngwladol ac sy'n dal yn adnabyddus hyd heddiw," meddai Ms Howard. Erbyn canol y 1970au roedd ffrogiau Laura Ashley oedd yn cael eu gwneud yng Nghymru yn cael eu gwerthu ar draws Ewrop. Cafodd eu siop cyntaf ei agor yn Llanidloes cyn agor siopau mewn llefydd fel Llundain, Paris, Geneva a Brwsel. Erbyn 1981 roedd y cwmni wedi ehangu i greu dodrefn a deunyddiau ar gyfer y cartref gyda 5,000 o siopau drwy'r byd. Fe wnaeth Ms Howard gyd-weithio gyda disgyblion o Ysgol Maes Y Dre yn Y Trallwng i greu teils wedi eu selio ar ddeunyddiau Laura Ashley a fydd yn rhan o'r cerflun. "Dwi'n gobeithio y bydd y cerflun a gwaith y disgyblion yn goffâd teilwng iddi hi ac yn helpu i ddenu ymwelwyr i Erddi Neuadd Glansevern - yn benodol y genhedlaeth iau - a gwerthfawrogi ei chyflawniadau," ychwanegodd. Mae'r cynllun wedi elwa o nawdd gan nifer o gwmnïau a Arts & Business Cymru. "Rydym yn falch iawn o gefnogi'r bartneriaeth greadigol yma ac yn caniatáu i gerfluniau Katie a'r plant gael eu mwynhau gan ymwelwyr i'r gerddi ar draws Cymru," meddai'r Cyfarwyddwr Rachel Jones.
|