British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 30 Mehefin 2009, 12:02 GMT 13:02 UK
Cau ysgol: Gohirio

Mae cynghorwyr wedi penderfynu peidio â chau ysgol - am y tro.

Dywedodd cynghorwyr y byddai'r sefyllfa yn Ysgol Syr John Rhys ym Mhonterwyd, Ceredigion, yn cael ei hadolygu mewn blwyddyn.

Fe fydd y penderfyniad yn argymhelliad gerbron cabinet y cyngor ym mis Gorffennaf.

Roedd y cyngor wedi penderfynu gweithredu trefn gau staudol ar unwaith.

Ond dadleuodd ymgyrchwyr bod angen gohirio am fod ceisiadau cynllunio'n cael eu hystyried o ran tai newydd yn y pentre.

Mae'r cyngor yn ailystyried eu polisi addysg ar hyn o bryd.

Roedd 30 o ymgyrchwyr yn picedu'r cyfarfod fore Mawrth, gan gynnwys aelodau Cymdeithas yr Iaith.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific