Awgryma'r arolwg bod llai na 33% eisiau seremoni arwisgo arall
|
Mae arolwg ar gyfer BBC Cymru yn awgrymu bod mwy na hanner pobl Cymru yn cefnogi'r frenhiniaeth. Darganfu'r arolwg fod 58% o'r rheiny gafodd eu holi yn dymuno cael Tywysog Cymru. Roedd 26% yn erbyn cael tywysog arall tra bod 33% yn meddwl nad oedd y swyddogaeth wedi elwa Cymru o gwbl ers 1969. Roedd y gefnogaeth i'r frenhiniaeth ar ei huchaf ymysg pobl hŷn. Darganfu'r arolwg bod tri chwarter o'r rheiny dros 65 oed o blaid y frenhiniaeth tar oedd dau ymhob pump (42%) ymysg rhai o dan 35 oed. Roedd 29% yn credu na ddylid cael brenhiniaeth.
 |
AROLWG
59% o bobl Cymru yn credu y dylid cael brenhiniaeth.
61% yn credu bod Cymru wedi elwa ar gael Tywysog Cymru ers 40 mlynedd.
58% yn dymuno cael Tywysog Cymru newydd pan ddaw Charles yn frenin.
58% yn credu y dylid cael seremoni arwisgo pe bai Tywysog Cymru newydd.
Ffynhonnell: Ymchwil Beaufort
|
Mae'r arolwg yn awgrymu bod menywod (63%) yn fwy cefnogol i'r frenhiniaeth na dynion (55%). Ac mae'n awgrymu bod rheiny sy'n byw yng nghymoedd de Cymru y lleiaf cefnogol o'r frenhiniaeth, gyda llai na hanner (47%) yn credu y dylid cael brenhiniaeth a 43% yn credu na ddylid. Mae 45% yn credu bod Cymru wedi elwa ychydig ar gael tywysog gyda 16% yn ystyried bod Cymru wedi elwa llawer. Roedd traean y bobl (33%) o'r farn nad oedd Cymru wedi elwa o gwbl. Roedd o dan draean (30%) heb fod yn ffafriol o gael seremoni arwisgo gyhoeddus tebyg i'r un gafodd y Tywysog Charles yng Nghaernarfon yn 1969. Cafodd cyfanswm o 922 o bobl yng Nghymru dros 16 oed eu holi gan Ymchwil Beaufort rhwng Mehefin 12 a Mehefin 24. Fe fydd y canlyniadau'n cael eu trafod ar raglen deledu nos Fawrth. Y cyflwynydd yw Huw Edwards. A Prince for Wales, BBC ONE Wales, Dydd Mawrth, Mehefin 30, 10.35pm
|