British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 29 Mehefin 2009, 08:03 GMT 09:03 UK
Codi tāl o 15c am fagiau plastig

Bagiau plastig
480m o fagiau plastig yn cael eu defnyddio yng Nghymru bob blwyddyn

Fe fydd Llywodraeth y Cynulliad yn cyhoeddi cynllun sy'n anelu at leihau'r defnydd o fagiau plastig.

Fe allai siopwyr dalu 15 ceiniog am fag plastig arferol.

Hwn yw un o argymhellion Gweinidog Amgylchedd Cymru, Jane Davidson, sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Llun.

Fe fyddai Cymru ar flaen y gad wrth leihau'r defnydd o fagiau plastig.

Ffeithiau cefndir
Siopwyr gwledydd Prydain yn defnyddio 9.9bn o fagiau plastig yn 2008, 400 o fagiau'r aelwyd
Y llynedd pobl Cymru wedi defnyddio 480m o fagiau
O ran pwysau, bagiau plastig yn golygu 2.7% o sbwriel(manylion Cedwch Gymru'n Daclus)
Cael gwared ar y sbwriel yn costio £1m y flwyddyn
Bagiau plastig yn cyfateb i 2.1% yr holl sbwriel ar draethau
Ffynhonell: Llywodraeth y Cynulliad

Mae 480m o fagiau plastig yn cael eu defnyddio yng Nghymru bob blwyddyn - a phob bag yn cymryd hyd at 1,000 o flynyddoedd cyn diflannu'n llwyr.

Mae ymgynghoriad cyhoeddus i drafod y gwahanol gynlluniau yn dechrau heddiw.

Ym mis Chwefror Llywodraeth y Cynulliad oedd y weinyddiaeth gynta ym Mhrydain i baratoi8 deddfwriaeth ar y mater.

Ym mis Mai cafodd ymgyrch ei lansio er mwyn lleihau'r defnydd o fagiau plastig.

Ar y pryd dywedodd y gweinidog nad oedd o blaid cwsmeriaid un tro i'r siop yn defnyddio bagiau plastig.



HEFYD
Ymgyrch i leihau bagiau plastig
18 Mai 09 |  Newyddion
Bagiau plastig: Rhybudd gweinidog
11 Chwef 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific