British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 27 Mehefin 2009, 14:25 GMT 15:25 UK
Gwyl newydd er budd hosbis

Plasty Gwysaney
Mae'r wyl newydd er budd elusen Ty Gobaith

Mae gŵyl newydd yn cael ei gynnal dros y penwythnos yn y gogledd ddwyrain wrth i nifer o wyliau eraill wynebu trafferthion.

Oherwydd y dirwasgiad ariannol mae nifer o wyliau yng Nghymru wedi dod i ben neu eu gohirio.

Ond mae Gŵyl Gobaith yn cael ei gynnal am y tro cyntaf ar Stad Plasty Gwysaney yn Yr Wyddgrug.

Mae'r ŵyl er budd elusen hosbis Tŷ Gobaith.

Mae 'na thema wahanol i'r tair noson.

Fe gychwynnodd yr ŵyl nos Wener gyda Comedi yn y Parc.

Nos Sadwrn y mae Clasuron yn y Parc ac yna y Corau yn y Parc fydd yn cloi'r ŵyl.

Misoedd o waith

Gydag amrywiol artistiaid mae disgwyl y bydd tua 10,000 o bobl yn mwynhau'r arlwy.

O gomedi i unawdwyr a chorau fel Only Men Aloud, gobaith y trefnwyr ydi bod 'na rywbeth i bawb.

"Dydi hi ddim wedi bod yn hawdd ac mae wedi bod yn fisoedd o waith trefnu," meddai cydlynydd yr ŵyl, y tenor Rhys Meirion.

"Ond mae'r gefnogaeth yr ydan ni wedi ei gael gan yr artistiaid, pobl llwyfan, pobl goleuo, pawb a phopeth wedi bod yn anhygoel.

Rhys Meirion
"Gwneud yr elw mwya posib" ydi'r gobaith yn ôl Rhys Meirion

"Rydan ni wedi llwyddo i gadw'r costau i lawr cymaint â phosib er mwyn sicrhau bod yr elw ar y diwedd yn fwy."

Fe fydd Rhys Meirion ei hun yn cymryd rhan nos Sadwrn gyda Shân Cothi a David Kempster a Cherddorfa Ryngwladol Llundain, Côr Rhuthun a'r Cylch, Ysgol Gynradd Ewloe Green, Seindorf Llaneurgain a Chôr Moreton Hall.

A nos Sul fe fydd Côr Ysgol Glanaethwy, Côr Trelawnyd, Côr Caerwys a Chôr Rygbi Gogledd Cymru yn ymuno gydag Only Men Aloud a Mark Evans wnaeth gyrraedd rownd derfynol rhaglen BBC Un , Your Country Needs You.

Mae 'na le i 4,000 o bobl bob nos ar y stad.

"Rydan ni'n gobeithio y bydd tua 2,000 bob nos," meddai Elinor Roberts, trefnydd yr ŵyl.

"Fe fyddai hynny yn ffantastig.

"Ac fe fyddai hynny yn siec go fawr."

Fe fydd yr holl elw yn mynd i'r hosbis sy'n bump oed eleni.

"Mae pethau yn anodd ar bobl ond gan bod nhw'n cael mwynhad a diwylliant a hynny yng nghlwm â rhoi arian at elusen, efallai bod hynny yn gwneud gwahaniaeth," ychwanegodd Rhys Meirion.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific