Mae 13 achos o'r ffliw moch yng Nghymru
|
Mae 'na 13 achos o'r ffliw moch wedi cael ei gadarnhau yng Nghymru. Dydd Sadwrn daeth cadarnhad bod dynes 20 oed o Abertawe yn ddiodde' o'r ffliw. Mae ganddi hi gysylltiad ag achos sydd wedi cael ei gadarnhau yng Nghaergrawnt. Dywedodd yr awdurdodau bod hi'n cael triniaeth gwrthfiotig a'u bod yn cysylltu gyda phobl agos ati er mwyn gwneud yn siwr nad ydyn nhw'n diodde. Fe wnaeth Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru gadarnhau hefyd bod 'na dri achos clinigol tebygol hefyd yng Nghymru. Mae dyn 29 oed, dynes 62 oed a dyn 67 oed, y tri o Sir Ddinbych, wedi bod mewn cysylltiad ag achos cadarnhaol o'r ffliw yn Yr Alban. Hyd yma mae'r gwasanaeth iechyd wedi bod yn profi pawb sydd wedi dod i gysylltiad ac achos o'r ffliw moch neu sy'n diodde symptomau. Ond dywedodd y gwasanaeth bod y ffliw bellach o fewn cymunedau y bydd meddygon yn tybio mewn amgylchiadau teuluol bod gan unrhyw un symptomau ffliw eu bod wedi cael y ffliw moch. Fydd y rhain ddim yn derbyn profion pellach. Dros 100 o weldydd Mae 175 o bobl yng Nghymru wedi bod o dan ymchwiliad ar gyfer y ffliw moch. Mae 141 o bobl wedi cael gwybod nad ydyn nhw'n diodde o'r ffliw ac mae 'na 18 achos o dan ymchwiliad pellach. Cafodd un person yn unig driniaeth yn yr ysbyty ond mae hi bellach wedi cael ei rhyddhau ac yn gwella. Drwy'r DU mae 'na 4,251 o achosion o'r ffliw wedi eu cadarnhau. Mae 'na 13 achos yng Nghymru, 24 yng Ngogledd Iwerddon, 850 yn Yr Alban a 3,364 yn Lloegr. Un person, yn Yr Alban, sydd wedi marw o'r ffliw. Roedd ganddi hi gymhlethdodau meddygol. Bellach mae achosion o'r ffliw moch wedi cael eu cadarnhau mewn 112 o wledydd. Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Tony Jewell, nad ydi'r ffliw ar hyn o bryd yng Nghymru yn ddifrifol iawn. "Rydym wedi rhybuddio pobl y bydd 'na achosion yng Nghymru ac mewn rhai amgylchiadau, marwolaethau. "Fel gyda ffliw blynyddol mae 'na farwolaethau, yn enwedig os ydi rhywun yn diodde o gymhlethdodau meddygol. "Hoffwn sicrhau'r cyhoedd ein bod yn gweithio'n galed i baratoi ar gyfer y ffliw ers rhai blynyddoedd ac mae 'na ganllawiau mewn grym. "Rhaid i bawb fod yn wyliadwrus o hyd i atal lledu'r haint." Ychwanegodd mai'r un yw'r cyngor i'r cyhoedd, i ddefnyddio hances bapur a'i daflu yn syth a golchi dwylo yn gyson neu ddefnyddio hylif arbennig i ladd unrhyw ddrwg. Llinell wybodaeth Galw Iechyd Cymru 0845 46 47.
|