Aelodau'r lluoedd arfog yn ymuno ac yn gorymdeithio drwy ganol Caerdydd ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog
Am y tro cyntaf mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn cael ei ddathlu ddydd Sadwrn gyda digwyddiadau a seremoni arbennig yng Nghymru.
Yn ystod y dydd fe gyhoeddwyd y bydd y prif ddigwyddiad cenedlaethol y flwyddyn nesaf yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd.
Ym Mharc Biwt, Caerdydd dydd Sadwrn cafwyd seremoni ac arddangosfa hedfan oedd yn cynnwys awyren Spitfire a pherfformiad gan y Red Devils hefyd.
Mae'r diwrnod yn cymryd lle diwrnod y cyn-filwyr gyda'r nod o gefnogi milwyr sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd yn ogystal â chofio'r cyn-filwyr.
Roedd miloedd o bobl yng Nghaerdydd i fod yn rhan o'r digwyddiadau a oedd yn cynnwys perfformiadau gan fandiau'r lluoedd arfog ac arddangosfeydd milwrol.
Bu cyn-filwyr yn gorymdeithio drwy'r ddinas ac mae digwyddiadau eraill wedi cael eu cynnal ar draws Cymru.
Er mai yn Nociau Hanesyddol Chatham yng Nghaint yr oedd y prif ddigwyddiad cenedlaethol eleni dywedodd Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Brian Griffiths, bod y digwyddiadau yn y ddinas yn rhai pwysig iawn.
'Braint arbennig'
"Fe fydd Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Nghaerdydd yn cyfrannu i ddealltwriaeth ehangach o gymuned y lluoedd arfog ac o'r rôl allweddol y mae'n chwarae yn ein bywyd cenedlaethol ac i'r gwŷr a'r gwragedd arbennig, sy'n gwasanaethu ac wedi gwasanaethu, sydd yng nghalon y cyfan," meddai.
Wrth dderbyn y gwahoddiad i gynnal y prif ddathliadau'r flwyddyn nesaf dywedodd bod hi'n "fraint ac yn anrhydedd" i Gaerdydd gynnal y digwyddiad yn 2010.
"Fe fydd cynnal y diwrnod y flwyddyn nesaf yn rhoi cyfle i Gaerdydd a Chymru gyfan ddangos ein cefnogaeth i'r dynion gwŷr a'r gwragedd dewr sydd, nid yn unig wedi ond sy'n dal i'n gwrachod a gwasanaethu'r wlad heddiw.
Fe fydd y prif ddigwyddiad yn 2010 yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd
"Mae gan Gymru hanes milwrol cryf ac mae 3ydd Bataliwn Catrawd y Cymry Brenhinol a'u cartref yng Ngwersyll Maindy yn y ddinas.
"Mae trefniadau eisoes wedi cychwyn i sicrhau y bydd hi'n ddiwrnod y bydd Cymru a'r DU yn falch ohoni."
Cafodd y diwrnod ei sefydlu i gydnabod gwaith a dewrder yr aelodau sy'n gwasanaethu, y cyn-filwyr a'r holl deuluoedd.
Fe wnaeth Prif Weinidog y DU, Gordon Brown, roi ei gefnogaeth i'r diwrnod y llynedd gan ddweud y dylai fod yn "ddiwrnod o arbennig o ddathlu".
Mae 'na gefnogaeth hefyd wedi bod i'r diwrnod gan brif swyddogion milwrol a theuluoedd milwyr sydd wedi marw mewn rhyfeloedd.
Roedd 'na ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ym Mhontypridd, Pen-y-bont ar Ogwr, Tredegar, Cas-gwent, Hwlffordd, Caernarfon a Rhuddlan hefyd.
Yn ystod 2010 fe fydd Castell Caerdydd yn agor amgueddfa newydd, Amgueddfa'r Milwyr Cymreig.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.