British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 27 Mehefin 2009, 15:04 GMT 16:04 UK
Blaenau Gwent yn croesawu'r brifwyl

Miloedd yn croesawu prifwyl 2010

Roedd tua 1,500 o bobl Blaenau Gwent yn rhan o orymdaith arbennig yng Nglyn Ebwy ddydd Sadwrn i groesawu Eisteddfod Genedlaethol i'r ardal yn 2010.

Roedd y bobl leol wedi ymuno gyda Gorsedd Y Beirdd ar gyfer y seremoni.

Yn ôl yr Eisteddfod Genedlaethol, dyma'r nifer mwya o bobl a chymdeithasau i wneud cais ar gyfer bod yn rhan o Orymdaith y Cyhoeddi ers blynyddoedd.

Mae hyn medden nhw yn arwydd clir o gefnogaeth a brwdfrydedd sy'n bodoli ym Mlaenau Gwent ar gyfer cynnal y brifwyl yno yn ystod haf 2010.

Mae'n rhaid cyhoeddi'r bwriad i gynnal yr Eisteddfod mewn ardal benodol o leiaf blwyddyn a diwrnod ymlaen llaw.

Roedd y gweithgareddau ddydd Sadwrn yn rhoi cyfle i bobl Blaenau Gwent gael blas o'r hyn fydd yno yn 2010 a hefyd yn gyfle i weddill Cymru gael blasu'r ddarpariaeth fydd ar gael gan bobl y sir.

Ymateb calonogol

Yn ogystal â'r seremoni ei hun a ddigwyddodd am 3pm yng Nghylch yr Orsedd ar Heol Y Fynwent, roedd canol y dref wedi ei thrawsnewid.

Roedd 'na ddau lwyfan mawr yng nghanol y dref er mwyn rhoi cyfle i bobl leol ddangos eu doniau a chroesawu'r Eisteddfod i'w bro mewn ffordd arbennig iawn o 10.30am ymlaen.

Gwaith Dur Glyn Ebwy
Gwaith dur a fu yn amlwg iawn ym Mlaenau Gwent

Roedd 'na nifer o stondinau gan wahanol fudiadau a chymdeithasau yno hefyd.

Fe wnaeth yr orymdaith ei hun gychwyn o ganol y dref am 2pm er mwyn cyrraedd Cylch yr Orsedd.

Selwyn Iolen, y dirprwy Archdderwydd oedd yn llywio'r seremoni gan bod Dic yr Hendre, yr Archdderwydd yn sâl.

Fe wnaeth Selwyn Iolen dderbyn y copi cyntaf o'r rhestr testunau ar gyfer prifwyl 2010.

"Rydym yn falch iawn bod cynifer o bobl a chymdeithasau wedi ymateb i'r gwahoddiad a yrrwyd at ysgolion lleol, clybiau a chymdeithasau i fod yn rhan o'r Orymdaith a'r Seremoni," meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr Eisteddfod Genedlaethol Cymru cyn y seremoni.

"Gobeithio y bydd Mehefin 27 yn ddiwrnod arbennig i'r teulu oll, ac y gallwn roi rhagflas i bobl Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd o'r hyn sydd i ddod yn ystod mis Awst y flwyddyn nesaf."

Fe wnaeth y Cynghorydd Des Hillman, Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent, ychwanegu y bydd Seremoni'r Cyhoeddi a'r ŵyl ddydd Sadwrn yn gyfle i bobl Blaenau Gwent ddangos eu cefnogaeth i'r Eisteddfod Genedlaethol.

"Rydym i gyd yn falch iawn bod yr Eisteddfod yn dod i'n hardal ni ymhen y flwyddyn, ac wrth gynnal y seremoni a chyhoeddi'r Testunau, mae gwaith caled a chydweithrediad pawb yn yr ardal wedi talu'i ffordd.

"Gobeithio y cawn ddiwrnod i'w gofio ddydd Sadwrn."

• Fe fydd Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010 yn cael ei gynnal ar dir Y Gweithfeydd yng Nglyn Ebwy rhwng Gorffennaf 31 ac Awst 6 2010.



HEFYD
Cynnal Prifwyl ar hen safle dur
07 Awst 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific