British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 26 Mehefin 2009, 09:47 GMT 10:47 UK
Canolfan yn hwb i reilffordd

Rheilffordd yr Wyddfa
Mae wyth trn yn teithio hyd at 25 o weithiau bob dydd

Mae Rheilffordd Mynyddig yr Wyddfa wedi dweud bod nifer y tocynnau sydd yn cael eu gwerthu wedi cynyddu'n sylweddol ers i'r ganolfan ymwelwyr newydd agor yno.

Mae nifer y tocynnau sydd wedi cael eu gwerthu wedi cynyddu 30% ers dechrau'r mis.

Mae mwy na 1,000 o ymwelwyr y dydd wedi bod yn defnyddio'r trenau ar gledrau sy'n 106 oed i gyrraedd copa'r Wyddfa.

Dywedodd rheolwr cyffredinol y rheilffordd fod tocynnau ar gyfer rhai o'r gwasanaethau'n cael eu gwerthu ddiwrnodau ymlaen llaw.

"Ar ôl yr holl sylw i agoriad swyddogol Hafod Eryri, mae nifer fawr o bobl am fynd i'w weld," meddai pennaeth Rheilffordd Mynyddig yr Wyddfa, Alan Kendall.

"Rydyn ni'n cael rhesi o bobl yn aros am docynnau yn y boreau, ac mae bron bob un o'r gwasanaethau hanner awr yn cael eu gwerthu'n llawn."

6,000 o docynnau

Mae'r rheilffordd wedi dweud bod amser aros am docynnau ar y ffôn hefyd wedi cynyddu ers i Hafod Eryri agor.

Mewn rhai achosion, mae pobl wedi aros ar y ffôn am fwy nag awr cyn cael gwybod bod y tocynnau i gyd wedi cael eu gwerthu.

Roedd disgwyl i'r cwmni werthu 4,000 o docynnau yn yr wythnos gyntaf ar ôl i'r ganolfan agor, ond fe gafodd yn agos at 6,000 eu gwerthu.

Ychwanegodd Mr Kendall fod rhagor o ffactorau o blaid y cwmni.

Meddai: "Bu cynnydd pendant yn nifer yr ymwelwyr sy'n cael gwyliau yn y DU, gyda rhai ohonyn nhw'n dweud wrthym mai hwn yw'r tro cyntaf iddyn nhw ddod i Ogledd Cymru ers 25 mlynedd.

"Y peth arall o'n plaid ni yw'r tywydd. Ar y gwyliau banc a nawr, fe gawson ni dywydd braf."

Ychwanegodd fod y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr yn dda i'r cwmni ac i'r gymuned gyfan.



HEFYD
Agor canolfan ar gopa'r Wyddfa
12 Meh 09 |  Newyddion
Rhodri Morgan yn agor Hafod Eryri
12 Meh 09 |  Newyddion
Canolfan newydd Hafod Eryri
12 Meh 09 |  Newyddion
Pa enw fydd ar y brig?
08 Rhag 06 |  Newyddion
Eira'n rhwystro codi caffi
21 Ebr 08 |  Newyddion
Datgelu 'sgerbwd' Hafod Eryri
21 Chwef 07 |  Newyddion
Hafod Eryri ar y brig
13 Rhag 06 |  Newyddion
Agor canolfan 4m yn Eryri
10 Rhag 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific