Mae pryderon y gallai'r ganolfan gau ymhen deufis
|
Mae pryder am ddyfodol gwasanaeth sy wedi rhoi cymorth dros gyfnod o chwarter canrif i bobl sy wedi cael eu treisio. Dywed Canolfan Cymorth Trais a Chamdrin Rhywiol Gogledd Cymru ei bod yn bosib y bydd yn rhaid cau ymhen deufis oherwydd diffyg arian. Mae gan y ganolfan yng Nghaernarfon un aelod o staff llawn amser, un aelod rhan amser a 50 o wirfoddolwyr. Bob blwyddyn mae'r ganolfan yn derbyn 2,000 o alwadau ac yn rhoi cymorth i 88 o bobl. Cafodd ymgyrch ei lansio gan yr heddlu yr wythnos hon i godi ymwybyddiaeth o dreisio, gan annog unrhyw un sydd wedi cael eu treisio i ddod atyn nhw. Mae'r ymgyrch yn cynnwys hysbyseb teledu sy'n targedu dynion. Prif neges yr hysbyseb yw "Trais: Gair bach - dedfryd hir". 'Cefnogaeth wrth gefn' Ond mae cyfarwyddwraig y ganolfan yng Nghaernarfon, Catherine Moseley, yn dweud y gallai'r ganolfan gau o fewn wythnosau ar ôl i'r ymgyrch ddod i ben. Dywedodd fod yr heddlu a'r gwasanaethau yn cyfeirio mwy a mwy o bobl atynt. "Ond does dim cymorth ychwanegol er mwyn ein galluogi i dalu am y gwasanaeth," meddai. "Mae angen mwy na £100,000 bob blwyddyn i gynnal y gwasanaeth. 'Cyfyngiadau' Dywedodd Catherine Roberts, Uwch Swyddog Diogelwch Cymunedol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd: "Cymdeithas wirfoddol gyda pholisi cyfeirio agored yw Canolfan Gefnogaeth Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru. Golygai hyn fod gwasanaethau megis yr heddlu, gwasanaethau cymdeithasol, iechyd ac eraill ledled Gogledd Cymru yn cynghori pobl fregus allasai gael budd o'r gefnogaeth i gysylltu â'r ganolfan. "Tan yn ddiweddar, prif ffynhonnell ariannu'r ganolfan oedd Cronfa Y Loteri Fawr, ond yn anffodus mae wedi darfod erbyn hyn. "Fel y rhan fwyaf o fudiadau sector gyhoeddus mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd yn wynebu cyfyngiadau ar y gyllideb fydd ganddi i'w wario. "Er hyn, petai cyfleon ariannu yn dod i'r amlwg ar gyfer y sector yma, byddwn yn cyfeirio'r ganolfan ato."
|