British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 25 Mehefin 2009, 06:40 GMT 07:40 UK
Diogelwch: Targedu croesfan

Car yn mynd trwy olau coch a bron yn achosi damwain ar groesfan Llangadog, Sir Gaerfyrddin

Mae ymgyrch Ewropeaidd i hyrwyddo diogelwch ar groesfannau rheilffyrdd yn defnyddio enghraifft o orllewin Cymru i danlinellu eu neges.

Yn ôl Network Rail mae'r groesfan ar Ffordd yr Orsaf Llanelli ymhlith y gwaetha yng Nghymru o safbwynt gyrru peryglus.

Mae'r ymgyrch diogelwch yn cael ei gynnal mewn 23 o wledydd Ewropeaidd ac yn canolbwyntio ar naw groesfan ym Mhrydain.

Y groesfan yn Llanelli yw un o'r prysuraf yng Nghymru gyda 8,000 o geir yn ei ddefnyddio pob dydd.

Yn ôl llefarydd mewn un wythnos benodol fe wnaeth dros 100 o geir dorri rheolau, gan gynnwys anwybyddu golau coch a gyrru o amgylch rhwystrau.

Y llynedd yng Nghymru cofnodwyd fod yna 30 achlysur lle bu bron i gar gael ei daro gan drên.

Yn ôl Network Rail mae yna gost economaidd wrth i drenau orfod oedi gan arwain at siwrneiau hirach.

Dywed Network Rail mai'r gost y llynedd oedd £1.8 miliwn a dyw hynny ddim yn cynnwys unrhyw ddifrod i eiddo.

"Gallai'r arian yma fod wedi ei wario ar wella'r trenau a'r rheilffyrdd," meddai llefarydd.

Bydd taflenni ynglyn â diogelwch yn cael eu dosbarthu mewn gwahanol leoliadau led led Prydain, gan gynnwys Llanelli.

Mae'r ymgyrch yn cael ei gefnogi gan yr Heddlu Trafnidiaeth a chwmni Trenau Arriva Cymru.

Dywedodd Alan Milne o Network Rail fod anwybyddu rheolau yn hynod beryglus

"Yn aml mae hyn yn golygu damwain farwol.

"Rydym yn Llanelli heddiw lle mae rheolau yn cael eu torri yn rhy aml.

"Y neges yw nad yw'n werth ceisio arbed ychydig eiliadau gan beryglu eich bywyd".




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific