British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 26 Mehefin 2009, 11:09 GMT 12:09 UK
Ffliw moch: Triniaeth ysbyty

Negatif o ffliw'r moch
Mae 12 achos o'r ffliw moch yng Nghymru

Daeth cadarnhad ddydd Gwener bod 'na dri achos newydd o'r ffliw moch yng Nghymru.

Mae'r nifer o achosion sydd wedi cael eu cadarnhau yng Nghymru bellach yn 12.

Menyw 59 oed o Gaerffili, dyn 19 oed o Gaerdydd a dyn 24 oed o Bowys yw'r diweddara i ddiodde.

Mae'r tri wedi cael cynnig cyffuriau gwrthfiotig.

Mae'r ddynes o Gaerffili yn cael triniaeth yn yr ysbyty.

Roedd hi wedi mynd yn sâl yn Sbaen ac wedi cael triniaeth ac yn gwella.

Yng Nghymru mae 'na 171 o bobl wedi cael profion ar gyfer y ffliw.

Mae 'na 3,600 o achosion o'r ffliw wedi eu cadarnhau yn y DU erbyn hyn.

Mae un person wedi marw yn Yr Alban o'r ffliw a oedd â chymhlethdodau meddygol.

Ers i'r achosion cyntaf o'r ffliw gael ei gadarnhau yn Mecsico yn gynharach yn y flwyddyn mae'r ffliw wedi cael ei gadarnhau mewn dros 100 o wledydd.

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Tony Jewell, nad ydi'r ffliw ar hyn o bryd yng Nghymru yn ddifrifol iawn.

"Rydym wedi rhybuddio pobl y bydd 'na achosion yng Nghymru ac mewn rhai amgylchiadau, marwolaethau.

"Fel gyda ffliw blynyddol mae 'na farwolaethau, yn enwedig os ydi rhywun yn diodde o gymhlethdodau meddygol.

"Hoffwn sicrhau'r cyhoedd ein bod yn gweithio'n galed i baratoi ar gyfer y ffliw ers rhai blynyddoedd ac mae 'na ganllawiau mewn grym.

"Rhaid i bawb fod yn wyliadwrus o hyd i atal lledu'r haint."

Ychwanegodd mai'r un yw'r cyngor i'r cyhoedd, i ddefnyddio hances bapur a'i daflu yn syth a golchi dwylo yn gyson neu ddefnyddio hylif arbennig i ladd unrhyw ddrwg.

Llinell wybodaeth Galw Iechyd Cymru 0845 46 47.



HEFYD
Ffliw moch: Mwy o brofion
15 Meh 09 |  Newyddion
Ffliw moch: Cadarnhau achos
31 Mai 09 |  Newyddion
Ffliw moch: Achos tebygol cynta
29 Mai 09 |  Newyddion
Ffliw moch: Profion ar 90
27 Mai 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific