Cafodd y wefan ei lansio ar Fai 15
|
Dywed Gweinidog Treftadaeth Cymru bod cwmni sy'n cael y bai am drafferthion technegol adeg lansio gwefan Golwg360 wedi derbyn £25,354 o arian cyhoeddus. Mewn ateb ysgrifenedig dywedodd Alun Ffred Jones fod Iolo Jones, prif weithredwr cwmni TV Everywhere, wedi derbyn yr arian yn sgil ei swydd fel ymgynghorydd. Dywed Golwg mai isgontractwyr gafodd eu penodi gan TV Everywhere oedd yn gyfrifol am broblemau technegol pan gafodd y wefan ei lansio ar Fai 15. Dyw TV Everywhere ddim yn gweithio ar y prosiect bellach. Daeth y wybodaeth am yr arian cyhoeddus mewn ateb i gwestiwn gan yr AC Ceidwadol Alun Cairns. Cafodd y wefan ei lansio ar Fai 15 ar ôl cael grant o £600,000 am gyfnod o dair blynedd oddi wrth Lywodraeth y Cynulliad. Mae'r wefan yn darparu gwasanaeth newyddion dyddiol yn Gymraeg. Yn dilyn problemau technegol ar ôl y lansiad fe alwodd y Gweinidog Treftadaeth am adroddiad llawn. Dywedodd y cwmni sy'n gyfrifol am y wefan, Golwg Newydd (chwaer gwmni Golwg), mai gwaith a isgontractwyd gan TV Everywhere "oedd sail y problemau". Mae BBC Cymru wedi gwneud sawl ymdrech i gysylltu ag Iolo Jones. Hyd yma ni chafwyd ymateb.
|