Dechreuodd y Charterhouse ar ei gwaith yn1909 (Llun: RNLI)
|
Mae bad achub sy'n 100 oed eleni wedi cael ei dywys yn ôl i Abergwaun - y porthladd lle cychwynnodd ei wasanaeth gyda'r RNLI. Cafodd y Charterhouse, neu'r Marian fel mae'n cael ei adnabod nawr, ei gludo ar y daith 150 milltir nos Fawrth o Fangor. Pan ddechreuodd ar ei waith yn 1909 y Charterhouse oedd bad cyntaf yr RNLI i ddefnyddio injan yn ogystal â hwyliau. Teulu'r Lomas sy'n berchen ar y bad bellach. Ond maen nhw wedi cytuno y dylai'r cwch ddychwelyd i Sir Benfro. Yn 1921 ddaeth y Charterhouse i sylw'r wasg Brydeinig ar ôl achub llong o'r Iseldiroedd, yr Hermina, aeth i drafferthion oddi ar arfordir Sir Benfro. Llywyddodd y rhan fwyaf o griw'r Hermina i fynd a'r fwrdd y Charterhouse. Ond wrth geisio dychwelyd fe dorrodd yr injan a bu'n rhaid ceisio gosod yr hwyliau mewn tywydd trychinebus. O'r criw oedd dal ar fwrdd yr Hermina, cafodd un ei golli tra llwyddodd dau arall i nofio i graig gyfagos. Adnewyddu Cafodd y ddau ei hachub yn ddiweddarach gan aelod o'r RNLI. Yn dilyn y digwyddiad fe dderbyniodd y criw un fedal aur, tri arian a naw efydd fel clod am eu harwriaeth. Parhaodd y Charterhouse i wasanaethu tan 1931 pan gafodd ei addasu'n gwch hwylio a'i gwerthu. Yn 1946 cafodd y gwch ei phrynu gan deulu'r Lomas, a'i hailenwi'n Marion. Mae wedi parhau yn eiddo'r teulu ers hynny. Y nod yw arddangos y bad ger gorsaf bad achub Abergwaun tra'i bod yn cael ei hadnewyddu ac yna ei symud i farina newydd y dref. Mae disgwyl i'r bad gael ei harddangos yn harbwr y dref tua 10am ddydd Mercher.
|