British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 22 Mehefin 2009, 15:32 GMT 16:32 UK
Sefydlu ymgyrch i atal trais

Dynes
Mae'r heddlu'n gobeithio lleihau nifer yr achosion o dreisio

Mae ymgyrch cenedlaethol wedi cael ei sefydlu er mwyn lleihau nifer yr achosion o dreisio, drwy godi ymwybyddiaeth o effeithiau alcohol.

Cafodd y cynllun ei beilota fis Rhagfyr diwethaf, gyda nifer yr achosion o dreisio yn gostwng o 16 i bump o fewn mis.

Fe fydd cyfres o hysbysebion radio a theledu a phosteri mewn bariau a thafarndai yn ychwanegu at neges yr heddlu am dreisio.

Bwriad yr heddlu yw pwysleisio pa mor ddifrifol maen nhw'n ystyried treisio.

Fe fyddan nhw'n annog unrhyw un sydd wedi cael eu treisio i ddod atyn nhw neu at ganolfannau sy'n ymdrin â phobl sydd wedi cael eu treisio.

Maen nhw'n awyddus i bwysleisio hefyd fod rhyw heb gytundeb y ddau berson yn gallu arwain at gyfnod sylweddol yn y carchar.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Kevin O'Neill o Heddlu'r De: "Cafodd yr ymgyrch hwn ei beilota ym mis Rhagfyr 2008, ac mae'n ymddangos ei fod wedi helpu i gyfrannu at leihad sylweddol yn y math hwn o drosedd yn ystod mis Rhagfyr a mis Ionawr, gyda nifer yr achosion gafodd eu cofnodi yn gostwng o 16 i bump.

'Diniweidrwydd rhywiol'

"Mae alcohol yn chwarae rhan mewn dau allan o bob tri achos o dreisio sy'n cael eu hadrodd i'r heddlu.

"Drwy'r ymgyrch hwn, rydyn ni am annog pobl i gofnodi achosion o dreisio."

Mae gan bob heddlu swyddogion sydd wedi eu hyfforddi i gefnogi dioddefwyr.

Dywedodd prif weithredwraig corff Sarc Merthyr Tudful ac Abertawe, Libby Jones: "Mae hwn yn ymgyrch sy'n taro'n galed, sy'n dangos y canlyniadau dychrynllyd gall achosion o dreisio eu cael.

"Ond mae hefyd yn pwysleisio bod cymorth a chefnogaeth ar gael i unrhyw un sydd ei angen."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific