British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 23 Mehefin 2009, 05:53 GMT 06:53 UK
I'w derbyn i'r Orsedd 2009

Rhestr lawn o'r bobl fydd yn cael eu derbyn i Orsedd y Beirdd eleni yn Eisteddfod Meirion a'r Cyffiniau ym mis Awst.

I'w hurddo fore Llun Awst 3 2009.

Urddir ar gyfrif eu graddau yn cynnwys astudiaethau Cymraeg neu Gerddoriaeth:

Urdd Cerddor:

Angharad Elena Ellis, Cerrigydrudion

Ffion Bryn Jones, Corwen

Lona Meleri Jones, Y Bala

Glian Llwyd, Y Bala

Ieuan Wyn, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd

Urdd Llenor:

Bedwyr ap Gwyn, Bethesda

Catrin Gwynfor, Y Bala

Elinor Howells, Llanarth

Nia Eleri Hughes, Llangwm

William Michael Hughes, Carno,

Awel Bryn Jones, Corwen

Andrea Parry, Y Bala

Gwawr Mererid Roberts, Cemaes, Machynlleth

Mairwen Thorne, Rhosan ar Wy

Anna Timby, Mid Yell, Shetland

John Williams, Y Bala

A fu'n llwyddiannus mewn arholiad Gorsedd Y Beirdd 2009

Urdd Ieithydd (Gwisg Las)

Alun Fôn Roberts (Alun o'r Rhyd), Rhyd, Llanfrothen

Llwyddiannus yn yr Arholiad Cyntaf Cyfansawdd (Bardd Ofydd 1, Iaith Ofydd 1, Llên Ofydd 1)

Caroline Margaret Jean Williams, Llangyndeyrn, Cydweli

Urddau er Anrhydedd 2009

I'w hurddo fore Llun Awst 3 2009.

• Enillwyr Llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Sir Conwy 2008:

Dewi Huw Owen, Caerfechell, Hwlffordd - Enillydd y Goron

Iwan Rhys, Rusholme, Manceinion - Enillydd y Gadair

• Enillwyr Llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a'r Cylch 2008:

Urdd Ofydd er Anrhydedd

Huw Alun Foulkes, Bethel, Caernarfon - Enillydd Unawd Cerdd Dant dros 21 oed

Angharad Lisabeth Rees, Pontrhydylen - Enillydd Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts

Meirion Wyn Jones, Llangynhafal, Dinbych - Enillydd Gwobr Goffa David Ellis

Menna Cazel Davies, Pontypridd - Enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts

Siôn Ifan, Dryslwyn, Caerfyrddin - Enillydd Gwobr Richard Burton

Madison Tazu, Caerdydd - Enillydd Dysgwr y Flwyddyn

Urdd Derwydd er Anrhydedd

Hywel Griffiths, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth - Enillydd y Goron

Dyfed Edwards, Whitstable, Caint - Enillydd y Fedal Ddrama

Ifan Morgan Jones, Penparcau, Aberystwyth - Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen

Eilir Owen Griffiths, Ffynnon Taf, Caerdydd - Enillydd Tlws y Cerddor

I'w derbyn i Urdd Derwydd er anrhydedd ar gyfrif gwasanaeth maith ac arbennig i'r Orsedd a'r Eisteddfod

Delyth Hopkins Evans (Delyth o'r Hafod), Pontrhydygroes

Tom Evans (Tom Gwanas), Brithdir, Dolgellau

Beryl Lloyd Roberts (Eos Meirion), Pentrecelyn

Joan Thomas (Siwan Mererid), Llangynnwr

Urdd Ofydd er Anrhydedd (Y Wisg Werdd)

Tanni Grey-Thompson, Stockton-on-Tees. Mae Tanny yn un o bencampwyr enwoca'r byd. Enillodd 11 medal aur, pedair medal arian ac un fedal efydd mewn gemau paralympaidd. Dysgodd Gymraeg yn Nant Gwrtheyrn, a hi oedd y disgybl disgleiriaf o'r rhai oedd ar y cwrs hwnnw. Y mae ei dycnwch yn wyneb ei hanabledd wedi ysbrydoli a symbylu miloedd.

I'w hurddo fore Gwener Awst 7 2009:

Urdd Ofydd er Anrhydedd (Y Wisg Werdd)

Ann Atkinson, Corwen. Mae ei henw yn un o'r rhai amlycaf byd cerdd yng Nghymru. Enillodd ei lle eisoes fel unawdydd a chantores opera ar lwyfannau enwocaf y byd. Ond drwy'r holl lwyddiannau i gyd bu'n ffyddlon i'w gwreiddiau. Hi yw Cyfarwyddwr Cerdd Gwyl Gogledd Cymru yn Llanelwy, a hi fu'n arwain Côr y Fron i'w llwyddiant ysgubol a rhyng-genedlaethol.

Wenna Vaughan Bevan-Jones, Llandysul. Un o gymwynaswyr mawr ei bro. Prin fod unrhyw weithgarwch na mudiad o werth diwylliannol na fu hi yn fywiog ei chyfraniad iddyn nhw ar hyd y blynyddoedd. Y mae'n gyfuniad delfrydol o barodrwydd i weithio'n ymroddgar yn y dirgel a dawn i gadeirio a llywyddu mewn llu o gylchoedd, o Fainc Ynadon i'r Cymrodorion.

Carys Edwards, Caerfyrddin. Mae hi'n cael ei hystyried yn un o gymwynaswyr y ddrama yng Nghymru. Hi yw Cadeirydd Pwyllgor Drama Eisteddfod yr Urdd a Phanel Drama'r Eisteddfod Genedlaethol, a bu ei brwdfrydedd yn allweddol mewn nifer o ddatblygiadau diweddar. Ar wahân i'r cyfrifoldebau hyn, mae'n eithriadol o ymroddgar yn ysgogi diddordeb mewn drama ymhlith ieuenctid.

Connie Fisher, Hwlffordd. Eisteddfodau lleol a chenedlaethol a roes Connie ar ben ei ffordd i gyrraedd pinaclau perfformio fel seren fyd enwog. Yn 2005 graddiodd gyda'r radd uchaf posibl o Academy Mountview, ond y mae'n barod o hyd i wasanaethu achosion da yn Sir Benfro. Y mae'n fawr ei pharch at ei gwreiddiau a'i phobl yn fawr eu parch a'u serch ati hi.

Gareth Pritchard Hughes, Rhosllannerchrugog. Mae'n un o feibion nodedig Y Rhos. Ond dewisodd aros a chyfoethogi bywyd diwylliannol ei fro. Mae'n ysgolhaig uchel ei barch, yn ddarlithydd, yn diwtor, yn ddarlledwr caboledig ei arddull, yn gydolygydd y Papur Bro am dros 32 mlynedd a'i lais dwfn fel angor mewn mwy nag un côr yn ei ardal.

Randal Isaac, Rhydaman. Rhoddodd yn hael o'i amser i gefnogi diwylliant Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin. Bu'n flaengar gyda dysgu'r iaith i oedolion gan wasanaethu yn y cymoedd ac yn yr Unol Daleithiau. Ymddiddorodd mewn dawnsio gwerin, yn arbennig mewn clocsio. Bu'n galw twmpathau dawns ledled y wlad ac yn gyd-sylfaenydd Clwb a Gwyl Werin Rhydaman.

Denzil Ieuan John, Caerffili. Bardd, llenor, darlledwr a gweinidog disglair ei ddoniau. Y mae ei gyfraniad mewn llu o wahanol swyddogaethau o fewn enwad y Bedyddwyr ac ar gyrff rhyngenwadol cenedlaethol, wedi dangos sicrwydd ei arweiniad. Yn sylfaenydd a golygydd Papur Bro Caerffili y mae ei egni yn allweddol ym myd drama a chorau lleol ardal Caerdydd.

David Sulwyn Jones, Llanegryn. Llwyddodd, yn sgil ei frwdfrydedd a'i amynedd a'i hiwmor i gael pobl i gydweithio i gryfhau'r gwerthoedd a'r sefydliadau a etifeddodd yn Llanegryn a'r cylch. Ar wahân i'w waith fel Cadeirydd yr Eisteddfod leol gwasanaethodd yn ddiflino ar nifer helaeth o bwyllgorau yn ei fro a'i weithgarwch gloyw yn amlygu ehangder ei ddiwylliant.

Dennis Brace Jones, Corris. Anodd mesur gwerth ei gyfraniad i fywyd cerddorol a diwylliannol Dyffryn Dyfi. Cafodd gefndir cyfoethog yn ei brentisiaeth yng Ngwasg y Sir yn Y Bala adeg argraffu'r Faner yno. Ond o blith ei holl gyfraniadau, ei weithgarwch cwbl unigryw yn trefnu cyngherddau safonol er budd elusennau sy'n haeddu cymeradwyaeth ei genedl, a'n diolch ni oll.

Riwanon Kervella, Llydaw. Rhoes oes o wasanaeth yn hyrwyddo'r cwlwm rhyngom fel dwy wlad. Am gyfnodau bu'n dysgu yng Nghymru ac yn Iwerddon, ac yn ei gwaith wedyn yn ôl yn Llydaw fel Cyfarwyddwraig Skol Ober a'r Kuzul ar Brezhoneg bu'n gyfrifol i raddau helaeth am yr adfywiad mewn dysgu Llydaweg. Rydym yn ddiolchgar am weithgaredd mor ddylanwadol.

Tomás MacAodh Bhui, Waterford, Iwerddon. Mae'n Gelt o argyhoeddiad. Dysgu'r Wyddeleg a wnaeth a hynny drwy ymroddiad ar aelwyd Saesneg ei hiaith. Yna dysgu'r Gymraeg, drwy lyfrau gramadeg i ddechrau, ac wedyn drwy gyrsiau yn Nant Gwrtheyrn. A bellach mae'n gyflwynydd tair-ieithog yr Wyl Ban-Geltaidd. Braint i ni heddiw yw cydnabod cefnder ieithyddol s'n caru'r Gymraeg.

Pat Neill, Cross Inn. Un o ddysgwyr enwocaf y Gymraeg. Daeth y Gwyddel hynaws hwn o Southampton i fyw yng Ngheredigion gan ymroi i ddysgu'r Gymraeg ac ymhyfrydu yn ein llên. Meistrolodd gerdd dafod i'r fath raddau nes dod yn enillydd cenedlaethol ac yn dalyrnwr peryglus. Ef yw noddwr hael barddoniaeth plant Cymru gyda "Thlws Pat Neill" yn wobr flynyddol yn y Babell Lên.

Iolo Watcyn Thomas, Caernarfon. Pennaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron yn y gogledd a'i brif hyfforddwr ar sgiliau erlyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Fel Clerc Ynadon Gogledd Cymru, lluniodd gynllun iaith y Gwasanaeth hwnnw sy'n rhagori ar hawliau Deddf Iaith 1993. Drwy ei safle dylanwadol, rhoes i'r Gymraeg ei llew mewn Llys, gan fod yn ffyddlon i'w gefndir diwylliannol cyfoethog.

Dewi Hywel Tomos, Rhostryfan. Llenor sydd wedi ymhyfrydu cymaint yn nhreftadaeth ei fro nes iddo gyfoethogi diwylliant Cymru gyfan. Cyhoeddodd 17 o lyfrau amrywiol, a nifer ohonynt yn drysorfeydd o hanes a thraddodiadau lleol. Enillodd nifer o gadeiriau a medalau a gwobrau cenedlaethol a bu'n allweddol ym mhob ymgyrch i anrhydeddu Kate Roberts yn ei bro enedigol.

Myra Turner, Waunfawr. Un o gefnogwyr selocaf eisteddfodau lleol Cymru. Y mae'n arbennig o ddawnus fel adroddwraig a'i dehongliad a'i mynegiant yn ddeallus. Ymddangosodd lawer gwaith ar lwyfan y Genedlaethol gan ennill rai blynyddoedd yn ôl ar adrodd i rai dros 25. Bu'n hael ei gwasanaeth mewn cyngherddau gan ymweld â chartrefi henoed i ddiddanu'r trigolion.

John Isgoed Williams, Trawsfynydd. Ni ellid rhagori am ei ddyfalbarhad mewn gwasanaeth cyhoeddus i'w fro. Bu'n aelod ar y cyngor lleol am dros hanner canrif, ac am gyfnodau ar Gyngor Dosbarth a'r Cyngor Sir. Rhoes ei gyfraniad rhyfeddol i weithgaredd diwylliannol ac amgylcheddol Trawsfynydd ac ef yw un o sylfaenwyr a chadeirydd presennol Cymdeithas Bro a Thref Cymru.

Urdd Derwydd er Anrhydedd (Y Wisg Wen)

Mary Lloyd Davies, Llanuwchllyn. Enillodd ei lle ers blynyddoedd yng nghalon y genedl. Wedi llwyddiant ym mhrif gystadlaethau lleisiol Cymru, perfformiodd gyda chwmnïau operâu ar sawl cyfandir. Er ei bod yn parhau fel cantores broffesiynol, ymroes i gefnogi diwylliant Cymru fel hyfforddwraig lleisiol yng Nghanolfan William Mathias, ac arwain ei chôr i lwyddiant cenedlaethol.

Selwyn Evans, Yr Wyddgrug. Amlygodd dros y blynyddoedd ryw deyrngarwch ymroddgar iawn tuag at ddiwylliant ei fro, yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol. Bu ei ddulliau dyfeisgar i hybu buddiannau yr Eisteddfod yn fendith fawr mewn cyfnod anodd, ac y mae ei weledigaeth dreiddgar yn gyfraniad amhrisiadwy yng nghyfarfodydd y Bwrdd Rheoli.

Michael Farmer, Chwitffordd, Treffynnon. Cafodd y barnwr yrfa lewyrchus iawn ym myd y gyfraith a gwasanaethodd yn ddiweddar ar amrywiol dribiwnlysoedd a phwyllgorau adolygiadol. Bu'n arbennig o ddylanwadol o blaid y Gymraeg ar Bwyllgor yr Arglwydd Ganghellor a llwyddo hefyd i weddnewid y Bar yng Nghaer drwy fabwysiadu polisi i annog a ricriwtio Cymry Cymraeg yn aelodau.

Andrew Green, Aberystwyth. Yn frodor o Swydd Efrog, ef yw Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru. Wedi priodi merch o Gaerfyrddin aeth ati'n frwd i ddysgu'r Gymraeg ac y mae ei frwdfrydedd dros yr iaith yn esiampl ac yn ysgogiad i eraill. Er mai Archaeoleg oedd maes gwreiddiol ei ysgolheictod, cyfoethogodd fywyd ein cenedl bellach gyda'i ddisgleirdeb ym myd llyfrgellyddiaeth.

Edwin Jones, Carrog, Corwen. Anodd meddwl bellach am lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol heb Edwin. Er na ddaw i olwg cynulleidfa na chamera, ef fel rheolwr llwyfan sy'n cyfarwyddo pob symudiad ac yn cywiro'n ddirgel bob cam gwag gan berfformiwr ac arweinydd a beirniaid. Ac y mae'r cawr hwn yr un mor gyhyrog ei gynhaliaeth i ddiwylliant ei fro gyda'r Urdd a'r eisteddfodau lleol.

Eirian Jones, Carrog, Corwen. Y mae ei gwasanaeth i'r Eisteddfod yn ymestyn yn ôl flynyddoedd lawer ac erbyn hyn y mae ei chyfraniad i'r gweithgaredd yn hollol greiddiol. Cyflawnodd amrywiol swyddogaethau yn cynnwys cynhyrchu a chyfarwyddo perfformiadau ym Mro Delyn, Bala a Dinbych. Mae cael ei phrofiad o'i deallusrwydd yn gaffaeliaid mawr i Gyngor yr Eisteddfod.

Evie Morgan Jones, Dyffryn Ardudwy. Mantais fawr i ardal yw cael gwr o'i ddawn a'i ymroddiad yng nghanol pob gweithgaredd. Fel aelod a Chadeirydd Cyngor Sir y mae ei gadernid o blaid y Gymraeg a'i diwylliant yn eithriadol werthfawr. Y mae galw cyson arno fel arweinydd eisteddfodau a chyngherddau drwy Wynedd a rhoes ei arweiniad treiddgar i gymdeithasau lleol a chenedlaethol.

Henry Jones-Davies, Nantgaredig. Er iddo gael addysg yn Rugby a Rhydychen y mae ei wreiddiau yng Nghaerfyrddin a T E Ellis yn un o'i hen deulu. Wedi gyrfa dramor a'i dygodd i fydoedd megis archaeoleg a thwristiaeth a ffilmio, ymgartrefodd yng Nghymru. Y mae'n genedlaetholwr o argyhoeddiad, yn sefydlydd Cambria a symbylydd amryw fudiadau i anrhydeddu Cymreictod.

David Wynn Meredith, Llanuwchllyn. Mae'n wyneb cyhoeddus y cyfryngau yng Nghymru ers degawdau. O'i gyfnod gyda'r Bwrdd Croeso, drwy ei waith graenus fel Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus HTV ac S4C yn ogystal â'i gynnyrch ym myd ffilm a llên a chelf a'i wasanaeth i'r Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol, bu'n lladmerydd a llysgennad taliaidd a gwreiddiol i'r Gymraeg.

Dei Tomos, Nant Peris. Y mae ei natur ddiwylliedig yn pefrio drwy ei waith cyhoeddus. Mae'n ddarlledwr dawnus a'i gyfweliadau yn dreiddgar a chynnes ac ymhyfrydwn o wrando ar ei Gymraeg graenus. Drwy ei wybodaeth eang am fyd natur ac amaeth, galwyd arno i wasanaethu ar nifer o gyrff lleol a chenedlaethol a gwelwn ei ddawn hefyd ar lwyfan yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol fel arweinydd.

Gerald Williams, Caernarfon. Tu hwn i'w swydd fel newyddiadurwr fe enillodd barch ei fro a'i ddarllenwyr drwy ogledd Cymru. Wedi bwrw ei brentisiaeth gyda phapurau'r Herald a chyfnod yng Nghaerdydd, gweithiodd i'r Daily Post am 36 mlynedd. Drwy ei adroddiadau craff a phersonol o ddiddorol, fe ddygodd Eisteddfodau'r Urdd a'r Genedlaethol i aelwydydd Cymru.



HEFYD
Yr Orsedd yn anrhydeddu Cymry
23 Meh 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific