British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 22 Mehefin 2009, 06:25 GMT 07:25 UK
Taith flynyddol Tywysog Cymru

Tywysog Cymru a Duges Cernyw
Fe fydd y Tywysog ar Dduges yn ymweld nifer o lefydd

Bydd y Tywysog Charles a Duges Cernyw yn dechrau ar eu taith flynyddol yng Nghymru ddydd Llun.

Gyda nifer o lefydd i ymweld â nhw, fe fydd y cwpl yn dechrau'r daith yn Aberhonddu.

Fe fydd Tywysog Cymru yn cwrdd â gwirfoddolwyr Prime Cymru sef Menter ar gyfer Mentro Aeddfed neu i Annog yr Aeddfed i Fentro.

Mae disgwyl y bydd y cwpl yn aros yn eu cartref yn Llwynywermod, Sir Gaerfyrddin.

Fe fydd Tywysog Charles a Duges Cernyw yn ymweld ag aelodau o gôr Eglwys Gadeiriol Aberhonddu ddydd Llun i weld sut mae'r ymgyrch casglu arian ar gyfer y côr yn datblygu.

Mae'r Tywysog yn noddwr Apêl Côr Eglwys Gadeiriol Aberhonddu sy'n ceisio codi £1 miliwn i dalu cyflogau cyfarwyddwr cerddoriaeth yr eglwys a chynorthwyydd yr organydd a thalu am wersi canu ar gyfer aelodau o'r côr.

Derbyniad

Fe fydd y cwpl wedyn yn mynd ymlaen i weld cwmni Tŷ-Mawr Lime Ltd sy'n cynllunio, cynhyrchu a dosbarthu deunyddiau adeiladu sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd drwy Brydain.

Llwynywermod
Mae disgwyl y bydd y cwpl yn aros yn eu cartref yn Llwynywermod

Mae coed gan y cwmni wedi cael eu defnyddio ar gyfer cartref y cwpl yn Llwynywermod ger Myddfai.

Mae disgwyl y bydd 'na dderbyniad ar gyfer trigolion lleol yno yn ddiweddarach.

Fe fydd y tywysog hefyd yn ymweld â gwirfoddolwyr cynllun Prime Cymru a fydd yn dangos eu gwaith yn Llanymddyfri.

Cafodd Sue Spalding, 59 oed o Aberhonddu, gefnogaeth Prime Cymru i ddysgu dawnsio bol ac fe fydd hi'n un fydd yn perfformio i'r Tywysog.

Ms Spalding yw un o gydlynwyr Canolfan Gwirfoddoli Aberhonddu sy'n cefnogi clybiau gwaith yn y dref ac yn rhoi cymorth i Prime Cymru gynnal cyfarfodydd a dosbarthiadau magu hyder ar gyfer y gwirfoddolwyr.

Yn ddiweddarach yn yr wythnos mae disgwyl y bydd y Tywysog a'r Dduges yn ymweld ag ysbyty a hosbis yn ogystal â chwrdd ag aelodau'r cadlanciau a chwaraewyr rygbi lleol.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific