British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 19 Mehefin 2009, 16:17 GMT 17:17 UK
Ffatri: 240 o swyddi yn y fantol

ffatri Contour
Dywed y cwmni bod hyn yn rhan o ymgais i dorri costau

Mae mwy na 240 o swyddi o dan fygythiad mewn cwmni gweithgynhyrchu a ganmolwyd gan y Prif Weinidog Gordon Brown yn ystod ymweliad chwe mis yn ôl.

Fe wnaeth Contour Premium Aircraft Seating, sy'n cynhyrchu ar ddau safle yng Nghwmbrân, Torfaen, gyhoeddi 40 o ddiswyddiadau fis ar ôl yr ymweliad.

Mae'r cwmni nawr wedi rhybuddio bod swyddi hyd at chwarter y gweithlu o 976 yn y fantol erbyn diwedd 2010.

Dywed y cwmni bod hyn yn rhan o ymgais i dorri costau.

'Diogelu dyfodol tymor hir'

Mae Contour yn cynhyrchu seddau awyrennau ar gyfer cwmnïau gan gynnwys British Airways ac Air France.

Mewn datganiad, dywedodd y cwmni eu bod eisoes wedi cyflwyno newidiadau i geisio torri costau, gan gynnwys newidiadau i batrwm y shifftiau a thaliadau goramser.

Dywedodd Mark Crompton, y rheolwr gyfarwyddwr: "Mae ein llyfr archebion mewn cyflwr iach. Bwriad y camau hyn yw diogelu dyfodol tymor hir y busnes".

Yn ystod ei ymweliad ym mis Ionawr, dywedodd Gordon Brown: "Mae Cymru wedi bod yn buddsoddi yn rhai o ddiwydiannau mawr y dyfodol ac y mae mewn sefyllfa i elwa pan fydd y byd yn tyfu".



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific