British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 20 Mehefin 2009, 10:31 GMT 11:31 UK
Newyddion: Lansio gwefannau

Safle Naidheachdan
Chwefror 2008: Lansio gwefan newyddion yn yr iaith Aeleg

Yr wythnos hon mae dwy wefan ddwyieithog wedi cael eu lansio, un yn Iwerddon ac un yn Llydaw.

Dywedodd mudiad Eurolang fod gwefan Inside Ireland wedi ei lansio yn Nulyn a'i bod hi'n cynnwys newyddion busnes, chwaraeon, iechyd a cherddoriaeth.

Yn Lorient fe gafodd gwasanaeth newyddion Daktu ei lansio sy'n cynnwys newyddion yn Llydaweg a Frangeg.

Yn Chwefror 2008 fe gafodd gwefan newyddion Gaeleg ei lansio.

'Menter gyffrous'

"Rydyn ni'n cyhoeddi straeon Gwyddeleg am fod yr iaith yn cael ei defnyddio'n fwy ... mae mwy a mwy o fusnesau'n defnyddio'r iaith," meddai'r golygydd Colm Ó Broin.

Dywedodd y byddai'r wefan hefyd yn cynnwys straeon am Ogledd Iwerddon.

Mae Ysgrifennydd Undeb Y Newyddiadurwyr yn Iwerddon, Séamus Dooley, wedi croesawu'r "fenter gyffrous".

"Rhaid dweud bod hyn yn galonogol pan bod cymaint o swyddi'n diflannu ym myd y cyfryngau."

Dywedodd Daktu y byddai'r wefan yn golygu y gallai darllenwyr greu eu "papur newydd" eu hunain.

"Mae'n ddatblygiad pwysig, yn gyfle i normaleiddio'r iaith ym mywyd cyhoeddus Llydaw."



HEFYD
Sianel newydd: 'Hwb i'r iaith'
29 Ion 08 |  Newyddion
Cyngor: 'Hwb enfawr i'r iaith'
27 Rhag 07 |  Newyddion
Addo £7.5m yn fwy at iaith
19 Rhag 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific