British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 20 Mehefin 2009, 17:31 GMT 18:31 UK
Cofeb i Iolo yr 'athrylith'

Cofeb i Iolo Morganwg
Cafodd y gofeb ei dadorchuddio ar Fryn y Briallu

Cafodd cofeb barhaol i goffáu Iolo Morganwg ei ddadorchuddio ym Mryn Y Briallu - Primrose Hill - yng Ngogledd Llundain ddydd Sadwrn.

Roedd yr achlysur yn cofnodi cyfarfod cyntaf Gorsedd y Beirdd Ynys Prydain a drefnwyd gan Iolo yn haf 1792.

Rhoddwyd caniatâd gan y Parciau Brenhinol i goffau'r digwyddiad gyda chofeb gan y cerflunydd John Meirion Morris, yr unig un o'i fath ar y bryn.

Gobaith y trefnwyr yw bydd y gofeb nid yn unig yn denu ymwelwyr o Gymru a thu hwnt ond yn ganolbwynt i bobl o Ogledd Llundain a'r gymuned Gymreig.

Roedd aelodau o'r Orsedd gan gynnwys Ceidwad y Cleddyf, Robin McBride, y cyn-Archdderwydd Robyn Llŷn, Gweinidog Treftadaeth y Cymru, Alun Ffred Jones AC ac Elfyn Llwyd AS yn y seremoni.

Am 12pm cafwyd areithiau gan y darlledwr a Llywydd Cymdeithas Cymru Llundain, Huw Edwards, datganiad barddol a chanu.

'Yn falch tu hwnt'

"Y mae pob un ohonom ni Gymru Llundain yn falch tu hwnt o'n cysylltiad â Iolo Morganwg," meddai.

"Dyma un o'n harwyr cenedlaethol, a bu disgwyl mawr am y cyfle i osod cofeb briodol iddo yn Llundain.

Iolo Morganwg
Fe wnaeth Iolo Morganwg gynnal yr orsedd gyntaf ar Fryn y Briallu

Dywedodd y cyn-Archdderwydd Robyn Llŷn fod coffáu'r bardd yn hollbwysig i Gymru.

"Oni bai am Iolo Morganwg yn sefydlu Gorsedd y Beirdd ym Mryn y Briallu yn 1792, mae'n debyg 'na fyddai yna ddim gorsedd ac felly ffrwyth dychymyg Iolo a thipyn o gyffuriau oedd yr Orsedd ac yw'r Orsedd," meddai.

"Mae wedi dod yn gorff sy'n dylanwadu'n fawr ar Gymru ac yn gwarchod yr iaith Gymraeg ac mae hynny'n bwysig iawn, iawn."

Dywedodd y Gweinidog dros Dreftadaeth Alun Ffred Jones AC: "Roedd Iolo Morganwg yn athrylith o fath - camp a rhemp.

"Ond mi roedd o y cyntaf i greu sefydliad cenedlaethol Cymreig ar adeg pan nad oedd yna sefydliadau - cyn y Brifysgol, cyn y Llyfrgell a chyn yr Amgueddfa.

"Fel cenedl rydym ni'n gorfod ail greu ein hunain o hyd ac o hyd ac roedd Iolo yn un o'r bobl wnaeth hynny, ac felly mae'n iawn i Llywodraeth y Cynulliad gefnogi hynny."

Murlun

Mae'r gofeb ar ffurf murlun wedi'i osod yng nghanol llechen gron.

Yr artist John Meirion Morris sy'n gyfrifol am y gwaith gydag Ieuan Rhys yn gyfrifol am y geiriau ar y llechen.

Mae'r ymgyrch hefyd wedi cael cefnogaeth Cymdeithas Y Cymrodorion a Gorsedd Y Beirdd eu hunain.

Seremoni dadorchuddio cofeb Iolo Morgangwg
Roedd cynrychiolwyr o'r Orsedd yn y seremoni ddydd Sadwrn

Ganed Iolo Morganwg - neu Edward Williams i roi ei enw cywir bedydd iddo - ar Fawrth 10, 1747 ym mhlwy Llancarfan ym Morgannwg.

Mae'n enwog am gynnal y cyfarfod cyntaf o Orsedd Beirdd Cymraeg ym Mryn Y Briallu yn Llundain ym 1792.

Yna, 27 mlynedd yn ddiweddarach fe ddaeth yr orsedd yn rhan annatod o'r Eisteddfod Genedlaethol.

Yn ôl Elfyn Llwyd AS roedd Iolo Morganwg yn arloesol:"Roedd Iolo yn ddyn ymhell o flaen ei amser, dyn dysgedig, hunan dysgedig, dyn y Dadeni mewn gwirionedd," meddai.

"Dyn oedd yn credu mewn pethau Cymru a Chymreig a dyn fuodd yn chwyldroadol mewn sawl ffordd - roedd ganddo gysylltiadau efo'r chwyldro yn Ffrainc, cysylltiadau efo beirdd amlwg yn Lloegr ac yn ffrindiau efo Wilberforce, roedd o hefyd wedi ymgyrchu yn erbyn caethiwed.

"Mae yna sawl rhan o'i fywyd sy'n anghredadwy ac roedd o'n sicr o flaen ei amser."



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Iolo Morganwg: Dyn ar gyffuriau?
10 Maw 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific