British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 19 Mehefin 2009, 12:16 GMT 13:16 UK
Llys ApÍl: Iawndal yn 'rhy isel'

Stephen Miller
Stephen Miller: Dileu dedfryd yn 1992

Mae barnwyr y Llys Apêl wedi dyfarnu y dylai dyn gafodd ei garcharu ar gam gael mwy o iawndal.

Fe fydd hyn yn "effeithio'n arwyddocaol" ar achosion llys o'r fath yn y dyfodol.

Roedd Stephen Miller wedi ei garcharu ar gam am fwy na phedair blynedd am lofruddio Lynette White.

Yn wreiddiol, roedd wedi cael £55,000 am golli ei ryddid.

Fe ddyfarnodd tri barnwr yn Llys Apêl ddydd Gwener fod yr iawndal mewn achos blaenorol yn "afresymol o isel."

Roedd Llys Apêl wedi dileu ei ddedfryd yn 1992 a'r llynedd fe wrthododd yr Uchel Lys ei gais am fwy o iawndal.

'Cyfeiliorni'

Dydd Gwener fe gafodd asesydd iawndal annibynnol, yr Arglwydd Brennan QC, ei orchymyn i roi iawndal newydd.

Dywedodd yr uwchfarnwr Syr Paul Kennedy wrth y llys fod asesydd swyddogol wedi "cyfeiliorni'n gyfreithiol".

"Dydw i ddim yn credu bod rhoi £55,000 o iawndal yn ddigon i rywun sydd wedi cael ei garcharu yn anghyfreithlon am fwy na phedair blynedd."

Roedd Mr Miller o Ogledd Clapham, Llundain, yn un o Dri Caerdydd gafodd eu carcharu ar gam am lofruddio Ms White.

Dydw i ddim yn credu bod rhoi £55,000 o iawndal yn ddigon i rywun sydd wedi cael ei garcharu yn anghyfreithlon am fwy na phedair blynedd
Syr Paul Kennedy, uwchfarnwr

Cafodd Ms White ei thrywanu fwy na 50 o weithiau yn Nhrebiwt, Caerdydd, yn 1988.

Yn 1990 fe gafodd Mr Miller, 22 oed ar y pryd, ac Yusef Abdullahi ac Antony Paris eu carcharu am oes am lofruddio.

Fe dreuliodd Mr Miller bedair blynedd a mis yn y carchar.

Roedd barnwyr wedi dweud bod Mr Miller wedi cael ei "fwlio a'i fygwth" wrth i'r heddlu ei holi a bod ganddo Gyniferydd Deallusrwydd (IQ) isel.

Mwy o achosion

Yn wreiddiol, fe benderfynodd yr Arglwydd Brennan roi £185,000 i Mr Miller am "galedi personol" a "niwed i'w deimladau".

Dywedodd yr Arglwydd Ustus Mummery fod 62 o achosion yn disgwyl cael eu hasesu - a rhai ohonyn nhw'n waeth nag achos Mr Miller.

Darren Hall
Bu Darren Hall yn y carchar ar gam am 11 mlynedd

Roedd Heather Williams QC, oedd yn cynrychioli Mr Miller, yn dadlau fod yr iawndal yr oedd wedi ei gael am golli ei ryddid yn llai na'r swm sy'n cael ei ddyfarnu mewn achosion sifil.

Fe ychwanegodd y dylai'r iawndal fod bron yn £125,000.

Dywedodd Syr Paul Kennedy ei fod yn cytuno fod yr iawndal a roddwyd i Mr Miller yn "afresymol o isel."

Yn sgîl y dyfarniad fe allai achos Darren Hall gael ei adolygu.

Fe dreuliodd 11 mlynedd yn y carchar ar gam am lofruddio Phillip Saunders, perchennog siop bapur yng Nghaerdydd yn 1987.

Fe gafodd ei gais am fwy o iawndal ei wrthod gan yr Uchel Lys ym mis Tachwedd y llynedd.

Dyw e ddim wedi apelio eto.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Iawndal: Dau yn colli apÍl
13 Tach 08 |  Newyddion
Cyn-garcharor: Ad-dalu iawndal
14 Maw 07 |  Newyddion
Arolygu ymchwiliad Lynette
19 Tach 04 |  Newyddion
Dal llofrudd Lynette White
04 Gorff 03 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific