Mae Airbus wedi cael grant o dros £28 miliwn
Mae'r cwmni sy'n cynhyrchu awyrennau Airbus wedi cael grant o dros £28 miliwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn sicrhau dyfodol creu adenydd awyren yn y ffatri yn Sir y Fflint. Caiff yr arian ei roi i'r safle ym Mrychdyn, gan greu canolfan newydd er mwyn cynhyrchu math newydd o adenydd. Dywedodd Brian Fleet, o Airbus, ei fod yn galluogi'r cwmni i edrych ymhellach na "sialensiau anodd y wasgfa ariannol bresennol". Dywedodd Prif Weinidog Cymru y byddai'r cyllid yn gwarantu dyfodol Airbus yng Nghymru am flynyddoedd, "os nad degawdau". Ychwanegodd Rhodri Morgan: "Heddiw gallwn ddathlu buddsoddiad enfawr sy'n gwarantu partneriaeth Airbus â Chymru am flynyddoedd, os nad y degawdau sydd i ddod. "Mae Airbus yn rhan hanfodol o economi Cymru. "Mae'r buddsoddiad hwn - a'r symudiad tuag at gynhyrchu adenydd awyren cyfansawdd - yn ategu ein henw da fel gwlad sydd â sgiliau uchel a chynnyrch o'r safon gorau." Safle ecogyfeillgar Daeth y cyhoeddiad dri mis yn unig wedi i Airbus gyhoeddi ei fod yn bwriadu colli 250 o swyddi ar safle Brychdyn, sy'n cyflogi mwy na 6,000 o bobl. Ar y pryd dywedodd Llywodraeth Cynulliad Cymru er bod hyn yn "siomedig" yr oedd yn "galonogol" bod y cwmni yn bwriadu osgoi diswyddiadau gorfodol. Dywedwyd wrth yr undebau bod y diswyddiadau yn ganlyniad i niferoedd llai o archebion, yn benodol ar gyfer y jet fusnes Hawker. Bwriad y pecyn cyllid a gyhoeddwyd ddydd Gwener fydd datblygu technoleg creu adenydd cyfansawdd a ddefnyddir yn y genhedlaeth nesaf o awyrennau. Bydd yn creu safle ecogyfeillgar ar gyfer adeiladu'r adenydd ym Mrychdyn. Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad hefyd y byddai'r cyllid yn "creu sgiliau'r dyfodol a chryfhau rôl Cymru fel canolfan o ddiwydiannau uwch-dechnoleg". Dywedodd Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog Cymru: "Nid mater yn unig yw hyn o ddatblygu sgiliau a diogelu swyddi pobl sgilgar, er pwysiced wrth gwrs yw hynny. "Mae'n fater o gyflwyno technoleg newydd fydd yn rhoi Cymru a'r Deyrnas Unedig ar flaen y gad ym maes technoleg newydd."
|