British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 18 Mehefin 2009, 14:22 GMT 15:22 UK
Uno gwasanaethau prawf Cymru?

Llys Barn
Fe fydd y cynlluniau yn cael eu cyflwyno i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder y mis nesa.

Mae pedwar gwasanaeth prawf Cymru yn dweud y dylen nhw uno i greu un gwasanaeth.

Y gobaith yw creu Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Prawf Cymru.

Maen nhw'n credu y byddai un gwasanaeth yn lleihau biwrocratiaeth ac yn gwneud Cymru'n fwy diogel yn y pen draw.

Wrth galon y cynllun mae gweithio gyda throseddwyr i leihau trosedd mewn cymunedau lleol.

Fe fydd y cynlluniau yn cael eu cyflwyno i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder y mis nesa.

Mae tîm prosiect o holl ardaloedd y gwasanaethau prawf yn cydweithio ar y cais sydd i'w gyflwyno cyn Gorffennaf 31.

'Sefyllfa unigryw'

Dywedodd Cyfarwyddwr y Prosiect, Caroline Morgan: "Rydym wedi cydweithio yng Nghymru am nifer o flynyddoedd ac mae yna berthynas naturiol rhwng pedair ardal y gwasanaethau prawf Cymreig.

"Rydym yn gweld ein hunain fel gwlad - rydym yn atal pob ymgais i fod yn rhanbarth - ac mae hyn yn ein rhoi mewn sefyllfa unigryw oherwydd ein hiaith, diwylliant a'n hunaniaeth gref.

"Mae llai o droseddau'n golygu llai o ddioddefwyr a thrwy gydweithio fel un gwasanaeth i Gymru gallwn wneud cyfraniad pwysig i wneud Cymru'n fwy diogel yn y pen draw.

"Byddai'n cynyddu ein potensial i weithio gyda sefydliadau mewn partneriaeth ar sail dipyn mwy.

"Yn syth fel Ymddiriedolaeth drwy Gymru, byddai gennym gyllideb o ?50 miliwn ac mae hynny'n rhoi llawer o bŵer a dylanwad.

"Mae gan bob ardal brofiannaeth ei chryfderau ei hun a thrwy ymuno gyda'n gilydd byddem yn sicrhau bod y gweithdrefnau gorau yn cael eu rhannu ledled Cymru.

"Wedi ystyried yr holl opsiynau, rydym o'r farn y byddai Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Prawf Cymru o'r budd gorau i'r staff."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific