British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 18 Mehefin 2009, 04:55 GMT 05:55 UK
Diwedd y gān yw'r geiniog

Gwyl y Faenol 2008
Bydd Gŵyl y Faenol 2009 yn cael ei gohirio eleni.

Mae Ymddiriedolaeth y Faenol wedi cadarnhau na fydd 10fed Gŵyl y Faenol yn cael ei chynnal eleni.

Dywedodd yr ymddiriedolaeth mai colledion ariannol yn ystod yr ŵyl y llynedd a'r methiant i ddenu rhai o brif artistiaid y byd cerddorol eleni yw'r rheswm am y penderfyniad.

Ond dywedodd y sylfaenydd, Bryn Terfel, fod cytundeb â dau gwmni rhyngwladol yn diogelu dyfodol yr ŵyl am hyd at bum mlynedd.

Byddai'r ŵyl yn dychwelyd yn 2010, meddai, gyda "rhai o'r artistiaid mwyaf a gorau erioed."

'Newyddion gwych'

"Mae'r cytundeb pum mlynedd yn newyddion gwych ond rydw i, yn naturiol, wedi fy siomi nad ydym ni'n medru cynnal yr ŵyl eleni.

"Rydw i'n eich sicrhau ein bod wedi ceisio ein gorau ond mi wnaeth yr amser ein trechu.

"Fe fyddwn ni'n cymryd un cam yn ôl er mwyn cymryd camau mawr ymlaen a dychwelyd y flwyddyn nesa yn gryfach nac erioed."

Fe fydd yr ymddiriedolaeth yn cydweithio â chwmni hyrwyddo Universal Music Classical Management & Productions (UMCMP) a chwmni hyrwyddo opera Raymond Gubbay.

Boyzone
Roedd Boyzone ymysg y llu o artistiaid oedd yn perfformio yn yr ŵyl yn 2008.

Dywedodd yr ymddiriedolaeth y byddai cydweithio â'r hyrwyddwyr yn diogelu dyfodol yr ŵyl am dair blynedd nesa ac wedyn y byddai dewis i gynnal y berthynas am ddwy flynedd arall hyd at 2014.

'Colledion ariannol'

Ers blynyddoedd mae artistiaid enwog wedi perfformio ar lwyfan y Faenol, gan gynnwys Shirley Bassey, Girls Aloud, Shane Ward, José Carreras, Andrea Bocelli a Connie Fisher.

Y llynedd bu Boyzone, John Barrowman, Jodie Pregner, Shân Cothi a Cerys Matthews yn perfformio.

Dywedodd yr ymddiriedolaeth fod "colledion ariannol" am fod "nifer siomedig yn yr ŵyl a hynny oherwydd y tywydd garw, pryder y cyhoedd yn gyffredinol a'r problemau economaidd bydeang."

Roedd yr ymddiriedolaeth fodd bynnag yn ymwybodol y byddai'r cyhoedd yn siomedig.

"Roedden ni wedi gobeithio y bydden ni wedi medru cynnal yr ŵyl eleni ar ôl cael sicrwydd ariannol a bod nifer o artistiaid wedi dangos diddordeb i berfformio.

"Serch hynny, dyw'r opsiynau yna ddim yn realistig bellach," meddai.

'Siomedig'

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad eu bod yn siomedig oherwydd y penderfyniad na fydd yr ŵyl yn cael ei chynnal eleni.

Mae'r cytundeb pum mlynedd yn newyddion gwych ond rydw i yn naturiol wedi fy siomi na fyddem ni'n medru cynnal yr ŵyl eleni.
Bryn Terfel, sylfaenydd

"Er ein bod yn ymwybodol o'r anawsterau sy'n bodoli yn yr hinsawdd economaidd, rydym yn siomedig fod Ymddiriedolaeth y Faenol wedi penderfynu na fydd yr ŵyl yn cael ei chynnal eleni.

"Fodd bynnag mae'n galonogol gweld fod sylfeini ar gyfer ail lansiad yr ŵyl yn y flwyddyn 2010 a thu hwnt yn gadarn.

"Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cadarnhau fod ganddyn nhw ymrwymiad cadarn i gydweithio gyda Bryn a'r ymddiriedolaeth er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer yr ŵyl."

Mae Taro'r Post ar Radio Cymru yn trafod y mater am hanner dydd ddydd Iau.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Boyzone yn agor Gwyl y Faenol
06 Maw 08 |  Newyddion
Faenol: Connie i berfformio
27 Ebr 07 |  Newyddion
Faenol: Cyhoeddi artistiaid 2007
02 Ebr 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific