British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 17 Mehefin 2009, 19:14 GMT 20:14 UK
Gwrthod cais cynllunio i godi tŷ

Bettws Newydd
Dyw Bettws Newydd ddim yn cydymffurfio gyda manylion y cais cynllunio gwreiddiol yn 2006.

Mae cais cynllunio newydd ar gyfer tŷ sydd wedi ei godi yn ymyl y Parrog yn Nhrefdraeth wedi ei wrthod gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Fe gafodd y perchnogion ganiatâd gan y pwyllgor i wneud cais cynllunio arall ar yr amod y bydden nhw'n gwneud newidiadau a fyddai'n cyd-fynd â thirlun yr ardal a chynllun datblygu tai'r ardal.

Serch hynny, fe benderfynodd aelodau o'r awdurdod ddydd Mercher nad ydyn nhw'n fodlon gyda'r newidiadau i'r cynllun.

Yn ôl yr awdurdod doedd y cynllun ddim yn cyrraedd gofynion y polisi ynglŷn â newid adeiladau a'i fod yn amharu ar y tirlun.

Hawl i apelio

Fe gafodd yr adeilad ganiatâd cynllunio gan yr awdurdodau yn 2006 ond dyw'r adeilad sydd wedi ei godi ddim yn cydymffurfio'r â'r amodau sydd wedi eu gwneud yn y cais cynllunio.

Mae cannoedd o bobl yr ardal wedi gwneud cwynion ac yn dadlau fod y "tŷ yn fwy na'r adeilad a gafodd ganiatâd cynllunio".

Fe gafodd yr awdurdodau dros 35 o lythyrau yn gwrthwynebu'r tŷ, a chafodd deiseb yn cynnwys 500 o lofnodion ei gyflwyno yn dweud fod yr adeilad yn "ddolur i'r llygaid".

Serch hynny fe gafodd yr awdurdod ddau lythyr yn cefnogi'r adeilad.

Ddydd Mercher fe bleidleisiodd aelodau o'r pwyllgor yn erbyn y newidiadau yn y cais cynllunio diwygiedig o 12 i ddau.

Mae gan y perchennog yr hawl i apelio.

Bydd unrhyw apêl yn cael ei gynnal o flaen arolygaeth cynllunio Llywodraeth y Cynulliad.



Chwiliwch yn Gymraeg


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific