British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 17 Mehefin 2009, 15:14 GMT 16:14 UK
Perygl cynnydd llid yr ymennydd

Meddyg (generic)
Mae'r Sefydliad Ymchwil i Lid yr Ymennydd yn rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus

Gallai'r achosion diweddar o'r frech goch yng Nghymru arwain at gynnydd mewn achosion o lid yr ymennydd sy'n deillio o firws.

Mae'r Asiantaeth Diogelu Iechyd yn rhybuddio bod achosion o'r frech goch wedi cynyddu i 602 yng Nghymru a Lloegr rhwng Ionawr ac Ebrill 2009 o'i gymharu â 354 achos ar gyfer yr un cyfnod yn 2008.

Mae'r Sefydliad Ymchwil i Lid yr Ymennydd yn rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus o symptomau llid yr ymennydd a chysylltu gyda'r meddyg os oes yn unrhyw amheuaeth.

Mae'r firysau sy'n achosi'r frech goch a chlwy'r pennau yn gallu trosglwyddo o gefn y trwyn a'r gwddw i'r hylif sy'n amgylchynu'r asgwrn cefn a gwneud eu ffordd i bilennau'r ymennydd - leininau sy'n amgylchynu'r ymennydd a madruddyn y cefn.

Bydd llid yr ymennydd yn codi pan fo'r rhain yn llidus.

Symptomau

Mae'r symptomau yn cynnwys cyfogi, cur pen difrifol, gwres uchel iawn, cric yn y gwâr, sensitifrwydd i oleuadau a phoen yn y cyhyrau a'r cymalau.

Arwydd glir ydy brech ar y croen ac, wrth wasgu gwydryn yn erbyn y croen, fydd y frech ddim yn diflannu.

Bydd angen cysylltu gyda'r ysbyty os bydd nifer o'r symptomau yn ymddangos.

Dywedodd prif weithredwr Sefydliad Ymchwil i Lid yr Ymennydd Christopher Head: "Ar adeg o risg cynyddol o'r frech goch a chlwy'r pennau mae'n hollbwysig bod yn ymwybodol o symptomau llid yr ymennydd.

"Cyn cyflwyno'r brechiad MMR, clwy'r pennau oedd yr achos mwyaf cyffredin o lid yr ymennydd sy'n deillio o firws yn y DU.

"Rydym yn annog rhieni i sicrhau bod eu plant yn derbyn yr holl frechiadau imiwneiddio."



HEFYD
Y frech goch: Mwy o achosion
18 Meh 09 |  Newyddion
Rhybudd i frechu plant
27 Mai 09 |  Newyddion
Ymgyrch newydd i frechu mwy o blant
28 Awst 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific