Mae disgwyl i'r cynllun gynnwys gwelliannau i'r safle presennol
|
Mae Prifysgol Abertawe wedi rhoi sêl bendith ar gynllun i gyflymu'r broses o godi ail gampws yn y ddinas. Mae'r brifysgol yn bwriadu codi adeilad gwyddoniaeth ac arloesiad ar Ffordd Fabian ar gyrion y ddinas. Ar ôl derbyn adroddiad, mae cyngor y brifysgol wedi penderfynu cyflwyno cais cynllunio ar gyfer y prosiect. Fe fydd penderfyniad terfynol am yr ail gampws yn cael ei wneud yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Byddai rhai o gyfleusterau campws Singleton yn cael eu symud i'r safle newydd. Dywedodd is-ganghellor Prifysgol Abertawe, Yr Athro Richard B Davies: "Mae'r campws gwyddoniaeth ac arloesiad yn ddatblygiad uchelgeisiol o'r 21ain ganrif, ac mae disgwyl iddo fod y prosiect economaidd mwyaf yn seiliedig ar wybodaeth yn y DU. "Drwy ddymchwel y ffiniau rhwng diwydiant ac academia, sy'n cyfyngu ar y model gwyddoniaeth draddodiadol, rydyn ni'n cynnig camau radical newydd i ddarpariaeth ymchwil a datblygu, addysg a sgiliau i helpu i yrru adfywiad economaidd er lles holl ranbarth de orllewin Cymru. "Fe fydd y campws newydd yn cynnig amgylchfyd arloesol agored fydd yn cyfuno ymchwil a datblygiad diwydiannol, ymchwil academaidd a myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig." Cwmnïau Mae'r tir ar gyfer y datblygiad newydd yn cael ei roi am ddim gan BP, sydd hefyd yn cefnogi ochr fusnes y prosiect. Dywedodd Yr Athro Davies fod y gwaith o ddatblygu'r campws wedi deillio o nifer o gysylltiadau aml-genedlaethol sydd gan y brifysgol. Mae disgwyl i'r datblygiad newydd gryfhau gwaith y brifysgol ym meysydd meddygaeth, technoleg gwybodaeth a pheirianneg, fydd yn arwain yn y pen draw at sicrhau mwy o swyddi i raddedigion. Bydd y safle newydd hefyd yn hwb i'r economi, gan y byddai'r campws yng nghalon y gymuned leol. Mae gan Abertawe fwy na 13,800 o fyfyrwyr, a chafodd ei sefydlu ym 1920. Penseiri Porphyrios sy'n dylunio'r campws newydd, ac mae'r broses honno newydd ddechrau. Mae'r campws newydd yn cael ei gynllunio mewn cydweithrediad rhwng Cyngor Bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Dinas a Sir Abertawe, Llywodraeth y Cynulliad a Sefydliad y Tywysog.
|