British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 18 Mehefin 2009, 10:51 GMT 11:51 UK
Y frech goch: Mwy o achosion

Brech goch
Mae 307 o achosion wedi eu cofnodi yng Nghymru

Mae achos arall o'r frech goch wedi cael ei gadarnhau yn Abertawe.

Mae'r achosion yn effeithio 16 o'r 22 sir sydd yng Nghymru.

Erbyn hyn mae 308 o achosion wedi bod, gyda'r mwyafrif ohonyn nhw'n blant.

O'r rhain mae 234 o achosion yn y gorllewin a'r canolbarth, 58 yn y gogledd a 16 yn y de ddwyrain.

Mae Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru yn annog rhieni i sicrhau pigiad MMR i'w plant.

Mae nifer achosion y clwy'r pennau'n codi hefyd.

Yn 2008 roedd 329 o achosion yng Nghymru ond dywedodd y Gwasanaeth Iechyd fod 484 o achosion wedi eu cadarnhau ers Ionawr 1 eleni gan gynnwys 62 yn yr wythnos diwethaf.

"Gyda'r nifer o achosion yn dal i godi yn ddyddiol ac achosion mewn dwy sir newydd, rydyn ni'n dal yn bryderus am unrhyw un sydd heb dderbyn dau ddogn o'r brechiad MMR," meddai Dr Marion Lyons, Pennaeth Tîm Gwarchod Iechyd y Cyhoedd y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus.

'Yn effeithiol'

"Mae'r brechiad yn saff, yn effeithiol a'r unig amddiffyniad yn erbyn y frech goch.

"Mae hefyd yn cynnig amddiffyniad yn erbyn clwy'r pennau sydd hefyd ar gynnydd yng Nghymru."

Dywedodd fod y ddau glefyd â sgil effeithiau difrifol.

"Mae modd i blant gael niwed ar yr ymennydd neu farw o'r frech goch ac mae cymhlethdodau clwy'r pennau yn gallu cynnwys llid yr ymennydd a cholli clyw," meddai.

"Y rhai sydd mwya mewn risg o ddal y frech goch ydi plant oed ysgol sydd ddim wedi cael dau ddogn o'r MMR neu blant rhwng 1 a 3 oed wnaeth fethu eu brechiad cyntaf yn 13 mis oed.

"Rydyn ni'n amcangyfri bod tua 45,000 o blant ysgol mewn perygl o ddal y frech goch ar hyn o bryd."

Rhif cyswllt Galw Iechyd Cymru ydi 0845 46 47.



HEFYD
Brech goch: Mwy o achosion
08 Meh 09 |  Newyddion
Galw am drafodaeth ar frechiad MMR
01 Meh 09 |  Newyddion
Y frech goch: 'Brawychus'
19 Mai 09 |  Newyddion
Y frech goch: Mwy o achosion
28 Mai 09 |  Newyddion
Y frech goch: Penaethiaid yn poeni
26 Mai 09 |  Newyddion
Brech goch: 50 am frechiad sengl
30 Mai 09 |  Newyddion
Rhybudd i frechu plant
27 Mai 09 |  Newyddion
Brech goch: 'Poeni'n fawr'
12 Mai 09 |  Newyddion
'Angen brechu miloedd o blant'
09 Ebr 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific