British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 18 Mehefin 2009, 20:17 GMT 21:17 UK
10,000 yn heidio i gwrs rasio

Cwrs rasio Ffos Las, Trimsaran
Hwn yw'r cwrs rasio dros y clwydi cyntaf ym Mhrydain ers 70 mlynedd

Roedd miloedd o ddilynwyr rasys ceffylau yn bresennol wrth i ras gyntaf gael ei chynnal ar gwrs rasio newydd.

Hwn yw'r cwrs rasio ceffylau dros y clwydi cyntaf i agor ym Mhrydain ers 70 mlynedd.

Roedd pob un o'r 10,000 o docynnau ar gyfer y saith ras yn Ffos Las ger Trimsaran yn Sir Gaerfyrddin wedi eu gwerthu.

Cafodd y cwrs ei godi ar 608 o erwau ar safle hen waith glo brig.

Roedd y ras gyntaf yn dechrau am 6.20pm ond fe wnaeth y clwydi agor am 1pm er mwyn rhoi cyfle i'r cyhoedd fynd o gwmpas y safle.

Mae hyfforddwyr o Gymru, Lloegr a'r Iwerddon wedi bod yn gefnogol iawn
Tim Long, Clerc Cwrs Rasio Ffos Las

Ymlaen llaw, dywedodd Huw Richards, cyfarwyddwr Ffos Las, fod cymaint o bobol yn edrych ymlaen at y digwyddiad.

"Mae'n deimlad rhyfedd ... ry'n ni wedi bod wrthi am gwpl o flynyddoedd ac mae'n anodd credu'r gwaith sy wedi ca'l ei wneud.

"Mae'n rhyfedd meddwl y bydd yna 10,000 o bobl yma erbyn diwedd y pnawn."

Roedd mynediad ar gyfer y diwrnod cynta drwy docyn yn unig.

Dywedodd y trefnwyr eu bod yn disgwyl cannoedd o'r Iwerddon ar gyfer y digwyddiad.

"Rydyn ni wrth ein bodde oherwydd nifer y ceffyle fydd yn cymryd rhan," meddai Tim Long, Clerc y Cwrs.

The Hen safle glo brig ger Trimsaran
Mae'r cwrs wedi ei godi ar safle hen waith glo brig ger Trimsaran

"Mae hyfforddwyr o Gymru, Lloegr a'r Iwerddon wedi bod yn hynod gefnogol."

Bydd dros 100 o bobl yn gweithio ar ddiwrnod y rasys ar y safle sydd wedi costio £30 miliwn i'w ddatblygu.

Bydd yna saith o gyfarfodydd rasio eraill yn 2009 a 28 o gyfarfodydd y flwyddyn nesaf.

Yn ogystal â rasys dros y clwydi, fe fydd modd cynnal rasio ar y gwastad a rasys cwrso.

Cafodd y cynlluniau cyntaf eu cyhoeddi bron degawd yn ôl gyda'r gwaith yn dechrau o ddifrif yn 2007.

Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Meryl Gravell, sy'n gynghorydd yn Nhrimsaran, fod y datblygiad yn gyffrous.

"Fe fydd yn dod â buddiannau lu i'r gymuned gyfagos a'r cyfan o Sir Gaerfyrddin."

Miloedd yn mwynhau ar ddiwrnod agoriadol Ffos Las



HEFYD
Y fenter 'all newid cwrs dyfodol'
18 Meh 09 |  Newyddion
Ras i gael tocynnau cyntaf?
01 Maw 09 |  Newyddion
Troi safle glo brig yn gae ras
11 Gorff 07 |  Newyddion
Cwrs rasio: Cam ymlaen
22 Medi 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific