British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 16 Mehefin 2009, 17:09 GMT 18:09 UK
Aliwminiwm: Gorsaf bwer?

Ffatri Aliwminiwm Môn
Mae ffatri Aliwminiwm Môn yn un o gyflogwyr mwya'r ynys

Mae cwmni Aliwminiwm Môn wedi cyhoeddi eu cynlluniau i godi gorsaf bŵer sy'n defnyddio bio-mas.

Pe bai'n cael ei hadeiladu, gallai'r orsaf yng Nghaergybi gynhyrchu 300 MW o ynni adnewyddadwy.

Gallai hynny olygu lleihau allyriadau carbon yn sylweddol a chyfrannu'n helaeth at yr economi leol wrth i swyddi gael eu creu yn yr ardal, medd y cwmni.

Gobaith y cwmni yw y bydd yr orsaf newydd, a fydd yn llosgi coed a gwastraff, yn cael ei agor yn 2013.

Mae'r cyhoeddiad yn dilyn ansicrwydd ynglŷn â dyfodol yr orsaf wrth i gytundeb y cwmni i gael cyflenwad trydan gan orsaf niwclear Wylfa ddod i ben fis Medi.

Mae Alwminiwm Môn yn defnyddio 12% o'r holl drydan sy'n cael ei gyflenwi yng Nghymru.

Dywedodd y cwmni fod angen cytundeb newydd i ddatrys y broblem.

Dydd Mawrth a dydd Mercher mae ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Neuadd y Dref Caergybi.

Mae cwmni Alwminiwm Môn Ltd (AMM) wedi amcangyfrif y bydd 600 o swyddi yn cael eu creu er mwyn adeiladu'r orsaf biomas gyda 100 o swyddi parhaol.

Gan fod yna gyfyngiad ar y nifer o goed ar gael ym Mhrydain, bydd rhan fwyaf o'r coed yn dod o dramor.

Cynllun Biomas
Bydd yr orsaf biomas newydd yn creu 700 o swyddi

Bydd ffermwyr lleol hefyd yn cael eu hannog i dyfu 'cnwd egniol' gan gynnwys cnwd llin, a fydd yn cael ei drawsnewid yn danwydd.

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Alwminiwm Môn David Bloor, mai'r orsaf biomas "yw'r siawns orau i sicrhau dyfodol y weithfa haearn."

Fe gyfaddefodd fod y cynllun yn ddibynnol ar ffactorau tymor byr wrth i gytundeb y cwmni gydag atomfa Wylfa ddirwyn i ben fis Medi.

Dywedodd perchnogion Wylfa Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear nad oedden nhw mewn unrhyw sefyllfa i gynnig cytundeb newydd i Alwminiwm Môn gan fod y penderfyniad yn un gwleidyddol.

Dywed Mr Bloor fod "gwleidyddion blaenllaw" yn cynnal trafodaethau, ond nad yw'n sicr beth fydd y canlyniad.

Fe ychwanegodd fod y bwlch rhwng diwedd y cytundeb gyda Wylfa a'r cynllun biomas newydd yn rhy fawr i'r cwmni dalu am drydan o'r farchnad rydd.

Dywedodd os na fydd cytundeb yn cael ei wneud fe fydd yn rhaid gwneud toriadau swyddi ac y byddai'r orsaf yn cael ei "adael yn segur" hyd nes bydd yr orsaf biomas yn cael ei agor.

"Y broblem fwyaf yw'r ffaith y byddwn yn colli gweithwyr sgiliedig," meddai.

Swyddi lleol

Dydd Mawrth a dydd Mercher bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Neuadd y Dref Caergybi rhwng 10am a 7.30pm lle bydd pobl leol yn cael mynegi eu barn ar y mater.

Dywedodd John Holmes o'r Fali "Os bydd hyn yn sicrhau mwy o swyddi, mae o'n syniad da, ond dydw i ddim yn siŵr beth mae'n ei olygu o ran yr amgylchedd gan nad ydw i'n gwybod digon am y peth."

Cafodd y farn ei ategu gan Rachel Mc Seachern o Gaergybi tra fe ddywedodd Eleri Billington sy'n fam i bump o blant ei bod yn cefnogi'r cynllun am ei bod yn "poeni am ddyfodol ei phlant am nad oes yna lawer o swyddi lleol."

Ychwanegodd Sue Williams o fwyty The Gateway: " Mae'n bwysig fod yr ynys yn cyflogi contractwyr, seiri coed a phobl o bob mathau o swyddi ac nid swyddi arbenigol yn unig."



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
'Pryder am 500 o swyddi'
15 Ion 09 |  Newyddion
Wylfa: 'Estyn oes atomfa'
25 Chwef 09 |  Newyddion
Ffatri: Ymchwiliad i dân
13 Meh 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific