British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 16 Mehefin 2009, 07:11 GMT 08:11 UK
Achos lladd Ô bwyell: Mechn´aeth

Daniel Morgan
Cafwyd hyd i gorff Daniel Morgan mewn maes parcio tafarn ar Fawrth 10, 1987

Mae dynes gafodd ei harestio ddydd Llun mewn cysylltiad â llofruddiaeth Daniel Morgan o sir Fynwy 22 mlynedd yn ôl wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth.

Cafodd y ddynes 50 oed yn cael ei holi mewn gorsaf heddlu yn ne Llundain ar amheuaeth o gynllwynio i'w lofruddio.

Roedd e'n gweithio fel ditectif preifat yn Llundain pan gafodd ei ddarganfod yn farw mewn maes parcio, gyda bwyell yn ei ben ar Fawrth 10, 1987.

Mae pump o ddynion eisoes wedi cael eu cyhuddo o fod yn gysylltiedig â marwolaeth y dyn 37 oed.

Y pump yw James Cook, 53 oed, o Tadworth, Surrey; Garry Vian, 47, sydd heb gyfeiriad penodol; Glenn Vian, 49, o Orchard Road, de Croydon a chyn partner busnes y dyn fu farw William John Rees, 53 oed, adnabyddir hefyd fel Jonathan, o Village Close, Weybridge, Surrey.

Maent oll wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth.

'Gwyrdroi cwrs cyfiawnder'

Cafodd Sidney Fillery, 61 oed, cyn-Dditectif Rhingyll gyda'r Heddlu Metropolitan, ei gyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Roedd Fillery, sydd nawr yn gweithio tu ôl i far, o Great Yarmouth, Norfolk, ynghlwm â'r ymchwiliad gwreiddiol ond fe gafodd ei dynnu oddi ar yr achos yn ddiweddarach.

Bydd y dynion yn ymddangos yn llys yr Old Bailey fis Gorffennaf.



HEFYD
Achos lladd Ô bwyell: Tystiolaeth
17 Meh 07 |  Newyddion
Corff: Arestio cyn blismon
18 Ion 03 |  Newyddion
Llofrudd honedig wedi ei ryddhau
04 Hyd 02 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific